Skip to main content

Cyllid lliniaru llifogydd sylweddol wedi'i ddyrannu i Rondda Cynon Taf

Flood alleviation

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid newydd gwerth dros £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru i barhau i ddatblygu cynlluniau lliniaru llifogydd lleol, gyda chyfanswm o 24 o brosiectau'n cael eu dylunio a/neu eu cyflawni dros y flwyddyn nesaf. Bydd y rhaglen arwyddocaol hon yn sicrhau bod gwaith lliniaru llifogydd yn parhau i fod yn faes buddsoddi blaenoriaeth ar gyfer ein cymunedau.

Bydd y dyraniad yma'n ategu cyllid y Cyngor ei hun yn y maes yma ac, ynghyd â grantiau sydd eisoes ar waith ar gyfer 2026/27, mae'n debyg y bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer lliniaru llifogydd yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf yn fwy na £6 miliwn.

Bydd y buddsoddiad yn canolbwyntio ar faes cyfrifoldeb y Cyngor mewn perthynas â ffynonellau llifogydd – drwy wella cwlferi a systemau draenio mewn lleoliadau allweddol sy'n agored i lifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw llifogydd o brif afonydd, tra bod llifogydd carthffosydd yn cael eu rheoli gan Dŵr Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau ei chyllid i Rondda Cynon Taf ar gyfer 2026/27 drwy ddwy o'i rhaglenni buddsoddi sefydledig – y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (£2.314 miliwn) a'r Grant Gwaith ar Raddfa Fach (£1.795 miliwn). Felly cyfanswm y cyllid a ddyrannwyd i Rondda Cynon Taf yw £4.064 miliwn.

Er mwyn sicrhau'r cyllid, mae swyddogion y Cyngor wedi nodi prosiectau lleol, llunio achosion busnes a chyflwyno ceisiadau ffurfiol am arian – tra bod arian cyfatebol y Cyngor wedi'i glustnodi drwy’i raglen gyfalaf barhaus y priffyrdd.

Darperir crynodeb o'r dyraniadau cyllido sydd newydd eu cyhoeddi ar draws dwy raglen Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r prosiectau y maen nhw'n eu cwmpasu a'r camau presennol tuag at eu cyflawni, ar waelod y diweddariad yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:  “Ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, mae swyddogion y Cyngor yn parhau i weithio’n galed iawn i ddatblygu a chyflwyno rhaglen sylweddol o gynlluniau lliniaru llifogydd, wedi’u targedu at leoliadau sydd mewn perygl ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y cyllid sylweddol newydd yma gwerth dros £4 miliwn yn galluogi'r maes buddsoddi blaenoriaeth yma i barhau dros y flwyddyn nesaf, gyda 24 o gynlluniau wedi'u henwi yn cael eu datblygu.

“Rydyn ni wedi cyflawni dros 100 o gynlluniau ers 2020, ac er bod hyn yn cynrychioli cynnydd rhagorol, rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae digwyddiadau tywydd garw yn dod yn fwy cyffredin oherwydd y newid yn yr hinsawdd, ac mae'r gaeaf yma wedi bod yn arbennig o wlyb, gan gynnwys tri rhybudd tywydd ambr o law a gyhoeddwyd ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn hanner cyntaf mis Rhagfyr 2025 yn unig. Mae pob arwydd yn awgrymu bod ein gwaith atgyweirio isadeiledd yn gweithio - yn enwedig ein bod wedi lleihau’r perygl o lifogydd i tua 2,200 o eiddo yn Storm Bert yn ystod 2024.

“Er bod dyraniadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 yn gyfanswm o £4.064 miliwn, mae'n bwysig nodi nad yw hyn yn cynnwys cyllid cyfatebol y Cyngor – sydd fel arfer wedi'i osod ar 15% ar gyfer y ddwy raglen berthnasol – ynghyd â chyllid a oedd eisoes ar waith ar gyfer y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n debygol y bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn sylweddol uwch, gan adeiladu ar y £6 miliwn a sicrhawyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2025/26).

Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Mae'r rhaglen yma'n cyflawni gwaith cyfalaf i leihau'r perygl o lifogydd, ac mae'r 14 cynllun lleol canlynol wedi'u henwi yng nghyhoeddiad cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27.

Ymrwymiad Parhaus o 2025/26 

  • Teras Arfryn, Tylorstown (dyluniad manwl/achos busnes llawn)
  • Blaenllechau, Glynrhedynog (achos amlinellol strategol)
  • Cwm Rhondda Fawr Isaf, Ardal Perygl Llifogydd Strategol (achos busnes y rhaglen).
  • Heol Llanwynno, Aberpennar (cam adeiladu).
  • Maes y Ffynnon, Aberaman (dyluniad manwl/achos busnes llawn)
  • Teras Maes-y-dderwen, Cilfynydd (achos cyfiawnhad busnes/achos busnes amlinellol)
  • Stryd y Gwirfoddolwr, Pentre (dyluniad manwl/achos busnes llawn)
  • Trehafod (Trehafod) (dyluniad manwl/achos busnes llawn)
  • Treorci (Treorci) (Cam 2 – dyluniad manwl/achos busnes llawn)
  • Heol Turberville, Porth (cam adeiladu)

Mae'r prosiectau newydd yma wedi derbyn cymeradwyaeth mewn egwyddor: 

  • Stryd Abertonllwyd, Treherbert (dyluniad manwl/achos busnes llawn)
  • Lôn Maesyffynnon, Aberaman (cam adeiladu)
  • Nant Gwawr, Aberaman (Cam 2 – dyluniad manwl/achos busnes llawn)
  • Stryd y Parc, Trefforest (achos amlinellol strategol).

Rhaglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach 

Mae'r rhaglen yma'n dyrannu cyllid i gynlluniau lliniaru llifogydd llai, a allai fod â buddion ehangach hefyd. Mae cyfanswm o 10 cynllun wedi'u nodi yn 2026/27, yn ogystal â gwaith gosod telemetreg a gwelliannau i sgriniau cwlferti. Dyma nhw: 

  • Stryd Abertonllwyd, Treherbert (gwaith pellach, dylunio/adeiladu)
  • Stryd Albany, Glynrhedynog (cam dylunio)
  • Stryd Alma, Tynewydd (cam dylunio
  • Stryd Britannia, Porth (dylunio ac adeiladu)
  • Heol y Capel/Swn y Nant, Llanharan (cam adeiladu)
  • Clos Cwm Alarch, Aberpennar (cam adeiladu)
  • Stryd yr Aifft, Trefforest (cam adeiladu)
  • Heol Graig-yr-helfa, Glyn-taf (cam dylunio)
  • Heol Pentrebach, Glyn-taf (cam dylunio)
  • Teras y Tuduriaid, Aberdâr (dylunio ac adeiladu)
Wedi ei bostio ar 05/03/2026