Skip to main content

Llety gofal ychwanegol yn y Porth yn cyrraedd camau olaf y broses adeiladu

Dan-y-mynydd THUMBNAIL

Mae datblygiad gofal ychwanegol newydd y Cyngor a Grŵp Codi yn y Porth, sy'n cynnwys 60 o fflatiau, bron wedi'i gwblhau, gyda'r nod o ddarparu llety â gofal o'r radd flaenaf lle mae pobl hŷn yn derbyn cefnogaeth i fyw'n annibynnol. Mae Aelodau'r Cabinet wedi ymuno ag ymweliad â'r adeilad trawiadol, gyda'r gwaith adeiladu yn cyrraedd ei gamau olaf.

Y prosiect cyffrous yma fydd y pedwerydd llety gofal ychwanegol yn y Fwrdeistref Sirol, gan ymuno â Thŷ Heulog (Tonysguboriau), Maesyffynnon (Aberaman) a Chwrt yr Orsaf (Y Graig) sydd wedi'u hen sefydlu fel canolfannau poblogaidd yn eu cymunedau. Mae pob safle gofal ychwanegol yn cynnwys cyfleusterau modern, tra bod trigolion yn cael pecyn gofal wedi'i deilwra a chymorth ar y safle o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r wythnos lle bo'n briodol, i ddiwallu eu hanghenion.

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni rannu straeon Steven Painter, un o drigolion Maesyffynon, a Janice a Dilwyn Watkins, trigolion Cwrt yr Orsaf, sy'n ffynnu yn yr amgylchedd gofal ychwanegol – sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar eu bywydau.

Croesawodd contractwr y prosiect, Intelle Construction, ymwelwyr i'r safle ddydd Mawrth, 17 Mawrth i ddathlu'r cynnydd sy’n mynd rhagddo o ganlyniad i'r bartneriaeth rhwng y Cyngor a Grŵp Codi. Codi yw darparwr tai, gofal a gwasanaethau cymorth mwyaf Cymru, a grëwyd trwy uno Cymdeithas Tai Linc Cymru a Grŵp Pobl.

Ymhlith yr ymwelwyr roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Gareth Caple a’r Aelodau o'r Cabinet y Cynghorydd Sharon Rees a'r Cynghorydd Ros Davis.

Bydd y datblygiad yn cynnwys 60 o fflatiau hunangynhwysol – ynghyd â chyfleusterau ategol modern megis ardal fwyta, siop trin gwallt, ystafell weithgareddau a chanolfan gofal dydd (a reolir gan Gyngor Rhondda Cynon)  Taf), golchdy, ystafell sba, ystafell westeion a mannau swyddfa. Yn allanol, bydd maes parcio ynghyd â gardd gymunedol i drigolion ei mwynhau.

Unwaith y bydd y cam adeiladu wedi'i gwblhau a'r adeilad wedi'i agor, bydd yr holl wasanaethau gofal a chymorth i drigolion yn y datblygiad newydd yn cael eu darparu gan Radis Community Care. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi gwybodaeth bwysig yn ddiweddar am sut i fynegi diddordeb i fod yn denant yn y llety newydd.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau i Oedolion: “Roedd yn fraint ymweld â’r llety gofal ychwanegol newydd gwych yn y Porth, sy’n adfywio safle hen Gartref Gofal Dan y Mynydd – gan ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i bobl hŷn. Mae'r safle wedi cael ei drawsnewid yn ystod y misoedd diwethaf, a hoffwn ddiolch i gontractwr y prosiect Intelle Construction am ei ymroddiad wrth gyflawni'r adeilad newydd yma, y mae modd i ni i gyd fod yn falch ohono.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i foderneiddio opsiynau gofal i bobl hŷn yn ein cymunedau, ac roedd rhan o’r addewid hwnnw’n cynnwys cynyddu nifer y gwelyau gofal ychwanegol yn sylweddol. Mae gofal ychwanegol yn helpu pobl hŷn i fyw mor annibynnol â phosibl, gyda chefnogaeth o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r flwyddyn, ar gyfer eu hanghenion asesedig – wrth hyrwyddo rhyngweithiadau ystyrlon bob dydd. Y llety newydd yn y Porth fydd ein pedwerydd safle gofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf, gan ychwanegu 60 o welyau newydd at y rhai sydd eisoes yn cael eu cynnig yn Nhŷ Heulog, Maesyffynnon a Chwrt yr Orsaf.

“Y tu hwnt i hyn, rydyn ni'n adeiladu llety gofal arbenigol ar gyfer oedolion a phobl hŷn sydd ag anableddau dysgu yn y Gelli, tra bod gwaith cychwynnol i adeiladu datblygiad gofal cymysg yn Aberpennar wedi dechrau – lle bydd gofal ychwanegol, gofal dementia a 'Byw'n Hŷn' yn cael eu cynnig ar un safle. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i brosiectau buddsoddi gofal yn y dyfodol yn nhref Glynrhedynog a Phentre'r Eglwys.

“Bydd y gofal ychwanegol newydd yn y Porth yn tynnu ar ein partneriaethau sydd wedi'u hen sefydlu gyda Grŵp Codi a Radis Community Care, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi darparu gwybodaeth am sut y mae modd i bobl hŷn fynegi diddordeb mewn dod yn denant yno. Rwy'n edrych ymlaen at weld camau olaf y broses adeiladu yn cael eu cwblhau a gweld y garfan gyntaf o drigolion yn symud i mewn maes o law – gan fod ein buddsoddiad parhaus mewn llety gofal modern yn rhoi cyfle i fwy o bobl hŷn ffynnu mewn amgylcheddau bywiog ac ysgogol.”

Meddai Gary Hortop, Pennaeth Tai Hygyrch i Bobl Hŷn yn Grŵp Codi: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni bron â chwblhau’r datblygiad newydd gwych yma ac yn croesawu’r trigolion cyntaf yn y dyfodol agos. Rydyn ni'n darparu fflatiau hunangynhwysol a modern o safon uchel ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion gofal a chymorth, mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf, gan ganiatáu i drigolion fyw'n annibynnol yn eu cymuned. Rydyn ni'n rhagweld lefelau uchel o ddiddordeb ac yn edrych ymlaen at weld y cynllun yma'n dod yn fyw dros y misoedd nesaf wrth i drigolion symud i'w cartrefi newydd.”

Dysgwch ragor am gynlluniau'r Cyngor yn y gorffennol, y rhai sy'n mynd rhagddyn nhw nawr, a chynlluniau'r dyfodol ar ein tudalen Prosiectau Buddsoddi mewn Gofal Preswyl ar wefan y Cyngor.

Wedi ei bostio ar 20/03/2026