Rydyn ni wrth ein bodd yn adrodd stori Steven Painter, sy'n byw bywyd i'r eithaf fel preswylydd yn llety gofal ychwanegol Maes-y-ffynnon yn Aberaman, lle mae'n cael ei helpu i fyw'n annibynnol bob dydd gan garfan ymroddedig o ddarparwr gofal blaenllaw, Radis Community Care.
Mae hyn yn cynnwys gofal wedi'i gomisiynu ar y safle drwy'r dydd bob dydd sydd hefyd yn ymateb i sefyllfaoedd brys. Ers symud i mewn, mae Steven wedi dod yn llawer mwy heini, iachach ac yn fwy cymdeithasgar, diolch i'r hyder y mae wedi'i fagu o fyw yn yr amgylchedd gofal ychwanegol.
Mae ein hymgyrch ‘Trawsnewid RhCT’ wedi lansio’n ddiweddar, nid yn unig i dynnu sylw at y buddsoddiad enfawr yng ngwasanaethau allweddol y Cyngor ar draws y Fwrdeistref Sirol, ond hefyd i gwrdd â rhai o’r bobl sy’n elwa bob dydd.
Roedd Steven, 56 oed, yn un o'r bobl gyntaf i symud i lety gofal ychwanegol Maes-y-ffynnon yn 2021, yn fuan ar ôl iddo agor, diolch i fuddsoddiad mawr gan y Cyngor a'i bartner, Codi Group (a elwid gynt yn Linc Cymru). Daeth y safle yn Aberaman yn ail gynllun gofal ychwanegol modern Rhondda Cynon Taf ar ôl Tŷ Heulog yn Nhonysguboriau. Ers hynny, mae trydydd cynllun yn Y Graig wedi cael ei gyflawni, tra bod pedwerydd yn cael ei adeiladu yn ardal Porth gyda'r disgwyl o'i agor yn 2026. Dysgwch ragor am y buddsoddiad parhaus mewn gofal ychwanegol.
Gyda chefnogaeth gan staff Radis Community Care, sydd wedi'u comisiynu i ddarparu gofal a chefnogaeth asesedig i breswylwyr Maes-y-ffynnon, mae Steven yn ffynnu yn ei fywyd bob dydd. Mae gan Steven ei fflat ei hun y gall ei haddurno sut bynnag y mae'n dymuno, ac mae'n mwynhau mannau modern, bywiog yr adeilad – gan gynnwys ystafell fwyta, caffi, salon trin gwallt, ystafell therapi, lolfa a rennir, ardal deras awyr agored ac ystafell weithgareddau. Mae Steven wrth ei fodd yn chwarae pŵl, gwneud jig-sos, gwrando ar gerddoriaeth, a chymdeithasu gyda phreswylwyr eraill y llety.
Mae Steven yn elwa ar gefnogaeth staff Radis sy'n mynd y filltir ychwanegol i helpu - ac er bod angen cefnogaeth ar Steven gyda rhai gweithgareddau bob dydd, mae hefyd yn llwyddo i fyw'n annibynnol. Haf diwethaf, fe wnaeth Steven fwynhau ei wyliau cyntaf ar fordaith, wedi iddo dderbyn cefnogaeth gan staff i drefnu'r antur a’i basbort. Aeth aelod o staff Radis gyda fe ar ei daith.
Mae Steven yn gweithio'n galed i golli pwysau ac yn derbyn cymorth gan staff o ganlyniad. Mae staff Radis Community Care hefyd yn croesawu ymweliad gan hyfforddwr personol ddwywaith yr wythnos, i helpu Steven gyda'i ffitrwydd a'i ymarferion rheolaidd. Mae e'n gwneud cynnydd anhygoel, ac wedi colli chwe stôn dros y flwyddyn ddiwethaf! Mae Steven nawr yn gallu sefyll a cherdded pellterau byr heb gymorth, ac mae staff Radis hyd yn oed wedi gorfod ei helpu i brynu dillad llai o faint!
Mae Maes-y-ffynnon yn teimlo fel cartref i Steven. Mae e'n aelod poblogaidd o'r gymuned brysur a chroesawgar yn yr adeilad, ac yn aml rydych chi'n gallu ei glywed yn canu wrth iddo wrando ar ei gerddoriaeth trwy ei chwaraewr CD bach a chlustffonau.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau i Oedolion: “Mae gweld Steven yn ffynnu yn un o’n cynlluniau gofal ychwanegol yn pwysleisio bod ein buddsoddiad hirfaith mewn llety gofal i bobl hŷn yn werth chweil. Mae ein cynlluniau gofal ychwanegol newydd yn darparu cartrefi modern mewn amgylcheddau sy’n ysgogi’r ymennydd ac sy'n creu ymdeimlad o gymuned, tra hefyd yn cynnig cefnogaeth drwy'r dydd ar gyfer anghenion pobl, i'w galluogi i fyw'n annibynnol cyhyd â phosibl.
"Mae stori Steven yn galonogol tu hwnt – o’i hyder newydd i’w daith colli pwysau ac anturiaethau ei wyliau diweddar. Diolch i staff Radis Community Care sy'n gweithio mor galed bob dydd i gefnogi preswylwyr gyda'u hanghenion asesedig, gan ddarparu gofal o'r radd flaenaf a hefyd, cyfeillgarwch.
“Mae ein cynllun gofal ychwanegol presennol yn Nhonysguboriau, Aberaman a’r Graig yn ganolfannau poblogaidd iawn yn eu cymunedau, ac rydyn ni hefyd yn adeiladu pedwerydd safle yn ardal Porth sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn y gwanwyn eleni. Mae hyn yn ychwanegol at gynlluniau gofal preswyl sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol yn Aberpennar, Gelli, Glynrhedynog a Phentre'r Eglwys, a fydd yn cynnig ystod o ofal wedi'i dargedu i ddiwallu anghenion lleol."
Meddai Melanie Walters, Rheolwr Gwasanaeth yn Radis Community Care: “Mae Steven wedi trawsnewid dros y blynyddoedd diwethaf wrth fyw ym Maes-y-ffynnon, o rywun a oedd yn aml yn ddiegni ac yn ymddieithrio, i unigolyn hyderus ac annibynnol sy'n caru bywyd! Mae carfan Radis wedi cefnogi Steven trwy drefnu ei fordaith gyntaf, a fwynhaodd yr haf diwethaf, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ei helpu i gynllunio mwy o deithiau yn y dyfodol.
“Mae hyder Steven wedi cael hwb pellach ar ôl i ni helpu i ddiweddaru ei gwpwrdd dillad ar ôl iddo golli pwysau'n ddiweddar. Mae ei agwedd gadarnhaol yn heintus, mae'n aml yn canu nerth ei ben, ac mae pawb yn canu gydag ef!
“Rydyn ni mor falch o Steven – mae ganddo ddarn enfawr o fy nghalon i.”
Wedi ei bostio ar 11/02/2026