Mae Janice a Dilwyn Watkins wedi mwynhau pob eiliad ers iddyn nhw symud i gyfleuster gofal ychwanegol modern y Cyngor a Grŵp Codi yn ardal Graig - ar ôl i'r ddau gwympo yn eu cartref blaenorol. Maen nhw bellach yn byw'n annibynnol, gyda mynediad at gymorth pwysig unrhyw bryd y maen nhw ei angen.
Mae gofal ychwanegol wedi caniatáu iddyn nhw symud i fflat newydd gyda'i gilydd, ac mae'r cwpl yn mwynhau awyrgylch cymunedol eu cartref newydd, lle maen nhw wedi dathlu 40 mlynedd yn briod yn ddiweddar!
Mae ein hymgyrch ‘Trawsnewid RhCT’ wedi lansio’n ddiweddar, nid yn unig i dynnu sylw at y buddsoddiad enfawr yng ngwasanaethau allweddol y Cyngor ar draws y Fwrdeistref Sirol, ond hefyd i gwrdd â rhai o’r bobl sy’n elwa bob dydd.
Ganwyd Dilwyn, 69, â pharlys yr ymennydd, ac mae gan Janice, 65, epilepsi. Tan yn ddiweddar, roedden nhw wedi bod yn gofalu am ei gilydd yn eu tŷ teras yn Nhrehafod, a doedd y tŷ ddim yn addas i'w hanghenion. Yn 2024, cwympodd Dilwyn i lawr y grisiau a thorri ei ffemwr, gan arwain iddo fod angen cadair olwyn yn barhaol. Doedd ei offer ddim yn gallu mynd trwy'r coridor yn eu tŷ, felly roedd Dilwyn yn sownd yn yr ystafell gefn, ar ben ei hunan ac yn teimlo'n ddigalon. Collodd Janice ei chydbwysedd hefyd ar sawl achlysur a arweiniodd at ymweliadau â'r ysbyty.
Er yr oedd cynhalwyr yn ymweld â nhw’n rheolaidd, roedd y cwpl yn gwybod y bydden nhw'n elwa o le mwy addas i fyw ynddo, ond roedden nhw hefyd eisiau cadw eu hannibyniaeth. Felly, gyda chymorth nith Janice, Bethan, fe wnaethon nhw edrych i weld a oedd gofal ychwanegol yn addas. Ym mis Mai 2025, ar ôl cytuno ar becyn gofal gyda’r Cyngor a Linc Cymru, symudodd Janice a Dilwyn i Gwrt yr Orsaf – un o dri llety gofal ychwanegol modern yn Rhondda Cynon Taf, lle mae modd i bobl hŷn fyw’n annibynnol gyda chymorth 24/7 ar gael ar gyfer eu hanghenion.
Mae'r cwpl bellach yn byw mewn fflat gyda chegin fodern, ardal fyw lachar, ystafell ymolchi gyda chawod â mynediad gwastad, ac ystafell wely eang yr un. Dim ond codi'r ffôn sydd ei angen i gael cymorth gan y staff ar y safle ar unrhyw adeg o'r dydd – ac mae modd iddyn nhw gael mynediad at gymorth brys drwy wasgu botwm y larwm personol.
Priododd Janice a Dilwyn ym mis Hydref 1985, ar ôl cwrdd am y tro cyntaf yn Llwynypia pan oedden nhw yn eu hugeiniau cynnar. Fe wnaethon nhw aduno rywbryd yn ddiweddarach wrth weithio yn ffatri Remploy yn Nhonyrefail, ac fe wnaethon nhw gwympo mewn cariad, a symud i fyw gyda'i gilydd ar ôl priodi.
Yn hollbwysig, mae gofal ychwanegol wedi eu galluogi i barhau i fyw gyda'i gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd hyn. Mae Dilwyn bellach yn cael pedair galwad y dydd i helpu gyda gofal personol ac i'w gefnogi i fynd lawr i'r bwyty ar y safle. Mae staff hefyd wedi helpu Dilwyn i archebu cadair olwyn drydanol, a fydd yn ei alluogi i gynnal ei hun a symud yn annibynnol. Yn y cyfamser, mae Janice yn mwynhau teithiau i Ganol Tref Porth yn aml, lle mae hi'n mynd i'r siop trin gwallt yn rheolaidd, ac mae'r cwpl yn edrych ymlaen at nosweithiau bingo ddwywaith yr wythnos yn y lolfa gymunedol. Maen nhw hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau gyda phreswylwyr eraill.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Janice a Dilwyn ddathlu eu pen-blwydd priodas rhuddem gyda pharti arbennig a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 2025, yng nghwmni ffrindiau a theulu. Dathlodd y cwpl eu Nadolig cyntaf yn eu cartref newydd ym mis Rhagfyr, a bydd rhagor o ddathliadau i ddod gan fod pen-blwydd Dilwyn yn 70 oed yn dilyn yn ddiweddarach eleni.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau i Oedolion: “Mae’n wych clywed am Janice a Dilwyn, sy’n ffynnu ers symud i mewn idai modern y Cyngor yng Nghwrt yr Orsaf yr haf diwethaf. Maen nhw nawr yn mwynhau manteision gofal ychwanegol – gyda chymorth ar gael bob awr o'r dydd drwy becyn gofal wedi'i deilwra ar eu cyfer, wrth fyw'n annibynnol mewn fflat sy'n eiddo iddyn nhw ac sy'n darparu ar gyfer eu hanghenion. Maen nhw hefyd yn mwynhau amwynderau'r adeilad, a'r ymdeimlad o gymuned sy'n cael ei greu gan breswylwyr a staff.
“Mae’n beth arbennig o foddhaol bod y cwpl wedi gallu symud i fyw gyda’i gilydd – rhywbeth nad ydych chi’n ei gysylltu â chartrefi gofal traddodiadol, ond sy’n bosibl oherwydd y trefniadau drwy ofal ychwanegol. Mae anghenion a disgwyliadau pobl hŷn yn newid, a dyna pam mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn moderneiddio'r opsiynau gofal preswyl sydd ar gael yn lleol. Mae gyda ni ddau gyfleuster gofal ychwanegol arall yn Nhonysguboriau ac Aberaman, ac mae pedwerydd cyfleuster yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn y Porth – ac mae hwn ar y trywydd iawn i agor yn 2026.
“Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu adeiladu nifer o safleoedd gofal preswyl eraill, gydag ymrwymiadau ar waith ar gyfer cynlluniau lleol yn Aberpennar, Gelli, Glynrhedynog a Phentre’r Eglwys, a fydd yn cynnig ystod o ofal, wedi’i dargedu i ddiwallu anghenion lleol.
“Hoffwn ddymuno’r gorau i Janice a Dilwyn ar gyfer eu dyfodol yng Nghwrt yr Orsaf. Llongyfarchiadau ar ddwy garreg filltir bwysig – eich pen-blwydd priodas rhuddem a ddathlwyd ym mis Hydref, a phen-blwydd Dilwyn yn 70 oed yn 2026! Hoffwn ddiolch hefyd i staff Cwrt yr Orsaf am eu hymroddiad i helpu pobl fel Janice a Dilwyn. Mae eich ymroddiad nid yn unig yn sicrhau bod preswylwyr yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, ond mae hefyd yn eu helpu i fyw'n annibynnol – mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.”
Dywedodd Gary Hortop, Pennaeth Byw’n Hŷn Grŵp Codi: “Mae hanes Janice a Dilwyn yn dangos yr effaith fawr y mae modd i'r cynllun gofal ychwanegol ei chael ar fywydau unigolion. Y tro cyntaf i ni gwrdd â nhw, roedd Dilwyn yn ei chael hi'n anodd cyrraedd rhannau o'i gartref blaenorol, ac roedd hi'n amlwg bod hyn yn peri gofid iddo. Nawr, mae modd iddo symud yn ddidrafferth o gwmpas ei fflat a mwynhau'r holl fannau cymunedol a'r cyfleoedd cymdeithasol sy'n rhan o'r cynllun. Mae hi wedi bod yn bleser gweld y ddau yn magu hyder ac yn ffynnu.”
Wedi ei bostio ar 02/03/2026