Skip to main content

Teithiau Bws Rhatach dros gyfnod y Nadolig yn y Fwrdeistref Sirol

Bus fares CYM

Bydd y Cyngor yn cyflwyno teithiau bws rhatach unwaith yn rhagor dros gyfnod yr ŵyl – gyda theithiau sengl sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn costio £1.50. Unwaith yn rhagor, bydd y cap pris yma ar waith drwy gydol mis Rhagfyr, ar gyfer pob gwasanaeth a phob gweithredwr bysiau.

Mae'r Cyngor unwaith eto'n targedu ei deithiau bws rhatach ar gyfer cyfnodau allweddol y flwyddyn, megis y Nadolig a chyfnodau gwyliau eraill. Bwriad y cynnig Nadoligaidd yw helpu trigolion a theuluoedd yn ystod cyfnod drud – gan leihau rhwystrau economaidd a allai atal rhai pobl rhag mynd ar y bws hefyd.

Bydd y cynnig teithiau bws diweddaraf ar waith drwy gydol cyfnod Nadolig 2026 – o ddydd Mawrth, 1 Rhagfyr, tan ddydd Iau, 31 Rhagfyr, gan gynnwys y dyddiadau hynny.

Dyma'r unfed tro ar ddeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r Cyngor ostwng prisiau teithiau bysiau, gyda theithiau £1.50 ar gael am y tro diwethaf yn ystod chwe wythnos gwyliau haf yr ysgol ym mis Gorffennaf a mis Awst 2026. Bydd cynnig mis Rhagfyr yn cael ei ariannu'n llawn gan y Cyngor, gan weithredu o dan yr un telerau ac amodau ag achlysuron blaenorol.

Mae'r cynnig yn berthnasol i bob taith sy'n aros yn gyfan gwbl o fewn ffin y Fwrdeistref Sirol, a bydd yn berthnasol o'r gwasanaeth cyntaf i'r gwasanaeth olaf bob dydd, bob dydd ym mis Rhagfyr 2026 (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).

Rhaid i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cerdyn yn ôl yr arfer yn ystod cyfnod y cynnig. Fydd teithiau sy'n dechrau neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf ddim yn cael eu cynnwys yn y cynnig yma, a bydd raid talu'r ffi lawn arferol.

Cofiwch, mae prisiau tocynnau bws i blant a phobl ifainc 5 i 21 oed wedi'u cyfyngu i uchafswm o £1 am un daith ar hyn o bryd, diolch i Lywodraeth Cymru. Bydd angen i bob person rhwng 16 a 21 oed ddangos ‘Fy Ngherdyn Teithio’ dilys i fanteisio ar y cynllun, tra bydd angen i blant dan 16 oed brynu tocyn bws unffordd i blentyn. Fydd y cynnig yma i bobl ifainc ddim yn cael ei effeithio gan fenter leol y Cyngor ym mis Rhagfyr 2026.

Meddai'r Cynghorydd Louisa Addicott, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf: “Bydd y cynnig pwysig yma dros gyfnod y Nadolig, sy’n berthnasol i bob taith yn Rhondda Cynon Taf, yn cael ei gyflwyno eto gan y Cyngor er mwyn cynorthwyo trigolion a theuluoedd lleol. Rydyn ni'n gwybod bod modd i'r Nadolig fod yn gyfnod drud iawn – gyda phobl hefyd yn debygol o deithio'n amlach i siopa, ymweld â theulu a ffrindiau, a dathlu tymor y Nadolig. Mae ein teithiau rhatach yn parhau i gael eu targedu at gyfnodau gwyliau allweddol, lle rydyn ni'n credu ei fod yn cael yr effaith fwyaf.

“Mae’r cynnig wedi profi’n boblogaidd iawn yn y gorffennol – mae trigolion wedi nodi arbedion go iawn, tra bod gweithredwyr bysiau wedi gweld cynnydd yn gyffredinol yn nifer y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Yn ogystal â hyn, rydyn ni bob amser yn annog pobl i Siopa'n Lleol er mwyn cefnogi busnesau lleol, a pha amser gwell i wneud hynny na chyfnod y Nadolig, gyda mynediad at deithiau bws rhatach yn y Fwrdeistref Sirol? Unwaith eto, bydd y cynnig hefyd yn rhedeg ochr yn ochr â'n cynnig parcio am ddim dros y Nadolig ym Mhontypridd ac Aberdâr, o 10am bob dydd, a bydd ar gael drwy gydol mis Rhagfyr.

“Mae annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eu teithiau bob dydd yn cynnig llawer o fanteision – lleihau traffig ar ein ffyrdd, gwella amseroedd teithio lleol, a helpu’r amgylchedd. Rwy'n falch iawn bod y Cyngor yn gallu ariannu'r cynnig £1.50 yn llawn dros dymor y Nadolig eleni – mae'n golygu ein bod ni wedi cyflwyno teithiau bws rhatach ar ryw ffurf ym mhob mis Rhagfyr ers 2023.”

Wedi ei bostio ar 16/11/2026