Skip to main content

Gofal plant wedi'i ariannu yn cael ei gynnig i bob plentyn 2 oed yn Rhondda Cynon Taf

Erbyn hyn, mae modd i deuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf fanteisio ar gynnig gofal plant wedi'i ariannu Llywodraeth Cymru, sydd wedi'i ehangu i gynnwys plant 2 oed. Bydd hyn yn helpu rhagor o blant i gael mynediad at addysg y blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel ac yn rhoi rhagor o gymorth i rieni a gwarcheidwaid o ran gofal plant.

O 1 Medi 2026, bydd pob rhiant a gwarcheidwad plentyn 2 oed yn Rhondda Cynon Taf yn cael cynnig at hyd at 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bob wythnos, gan ddechrau o'r tymor wedi ail ben-blwydd y plentyn hyd nes y tymor y mae'n cael ei ben-blwydd yn 3 mlwydd oed. Mae'r cynnig ar gael waeth lle mae teuluoedd yn byw yn y fwrdeistref sirol.

Mae'r ehangu yma'n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu system gofal plant symlach, y mae modd i deuluoedd ei deall, a, chael mynediad ati, yn fwy rhwydd, wrth barhau i ddarparu cymorth o ansawdd uchel ar gyfer datblygiad plant. Y flaenoriaeth yn y lle cyntaf, yw gofalu bod pob plentyn 2 oed yng Nghymru yn cael cynnig at 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu erbyn 31 Mawrth 2027.

Bydd y gofal plant yn cael ei ddarparu drwy leoliadau gofal plant sydd wedi'u cymeradwyo, ledled Rhondda Cynon Taf; gan roi cyfle i blant ddysgu, chwarae, a, datblygu sgiliau pwysig mewn amgylchedd cefnogol.

Bydd llythyr yn cael ei anfon at deuluoedd cymwys sy’n eu gwahodd nhw i wneud cais.  Mae modd i’r rhieni/gwarcheidwaid hynny sydd heb dderbyn llythyr ond sydd o’r farn bod eu plant yn gymwys i fanteisio ar y cynnig yma, e-bostio GofalPlantDechraunDeg@rctcbc.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Mae disgwyl y bydd yr ehangu yma o fudd i deuluoedd a darparwyr gofal plant fel ei gilydd, ac y bydd yn helpu rhieni a gwarcheidwaid i gael mynediad at ofal plant fforddiadwy gan gefnogi cynaliadwyedd hir dymor gwasanaethau gofal plant ledled y fwrdeistref sirol.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc:

"Rydyn ni wrth ein bodd bod modd i deuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf nawr gael mynediad at y cynnig gofal plant yma sydd wedi’i ehangu i gynnwys plant 2 oed.  Rydyn ni'n gwybod bod modd i ofal plant fod yn un o'r costau mwyaf ar gyfer teuluoedd sydd â phlant ifainc. Bydd y cyllid yma'n helpu i ysgafnhau peth o'r straen hwnnw, wrth roi mynediad at brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel i blant, sy'n cefnogi eu dysgu, datblygiad a'u lles."

"Mae hwn yn gam pwysig o ran gofalu bod pob plentyn yn cael y cyfle i gael y dechrau gorau oll mewn bywyd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n darparwyr gofal plant a phartneriaid Llywodraeth Cymru er mwyn cynnig y cymorth yma i deuluoedd ledled ein cymunedau."

Meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:

"Mae'r newyddion gwych yma’n dangos ein bod yn cyflymu ein hymrwymiadau i ddarparu mwy o gymorth gofal plant i deuluoedd wrth weithio tuag at gynnig gofal plant i bawb ym mhobman.  Cymru sydd â'r costau gofal plant uchaf yn y DU ac rwy'n benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru i dorri’u costau, gan sicrhau bod modd i blant fanteisio ar y cychwyn gorau i’w fywyd er mwyn cynnal eu prifiant.

Byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gyflwyno ein cynnig gofal plant ym mhobman, gan denu mwy o ddarparwyr er mwyn sicrhau bodd modd i deuluoedd fanteisio ar ragor o ofal plant fforddiadwy ac hygyrch."

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am y gofal plant sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a rhestr o'r darparwyr gofal plant sydd wedi'u cymeradwyo yma: www.rctcbc.gov.uk/GofalPlant 

Wedi ei bostio ar 14/09/2026