Skip to main content

Helpu cymunedau i fanteisio ar ynni adnewyddadwy lleol

Decarb CYM

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi canllaw ymarferol newydd i helpu cymunedau, ysgolion, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n cynnig buddion yn uniongyrchol i bobl leol.

Mae'r Canllaw Datgarboneiddio Adeiladau Cyhoeddus sy'n rhan o'r 'Hwb Ynni Adeiladau Cyhoeddus’ wedi'i ddatblygu drwy waith y Cyngor yn rhan o Raglen Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID), sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r canllaw yn seiliedig ar waith a wnaed yn Rhondda Cynon Taf i drin a thrafod sut mae modd defnyddio ynni adnewyddadwy sydd wedi'i gynhyrchu yn lleol, gan helpu i leihau allyriadau carbon, gwella diogelwch ynni a chadw mwy o'i fanteision economaidd o fewn cymunedau.

Yn rhan o'r rhaglen, ymchwiliodd y Cyngor i sut y byddai modd i dechnolegau ynni adnewyddadwy gwahanol weithio gyda'i gilydd o fewn system ynni lleol gysylltiedig. Roedd hyn yn cynnwys trin a thrafod cynllun ynni dŵr micro arfaethedig yng Nghwm Clydach, ynghyd â phaneli solar, storio ynni mewn batris, gwresogi carbon isel a chyfleoedd i rannu ynni yn lleol.

Mae canfyddiadau'r gwaith yma bellach wedi'u dwyn ynghyd mewn canllaw ymarferol sy'n gallu helpu sefydliadau ledled Cymru i gynllunio a chyflawni prosiectau tebyg yn eu cymunedau eu hunain.

Mae'r canllaw yn cynnwys cyngor ar:

  • Nodi adeiladau cyhoeddus addas ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy
  • Deall y galw am ynni lleol
  • Dod o hyd i gyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • Goresgyn heriau'r grid trydan
  • Lleihau allyriadau carbon o wresogi
  • Datblygu systemau ynni lleol a threfniadau rhannu ynni
  • Gwneud y mwyaf o'r manteision y gall prosiectau ynni adnewyddadwy eu cynnig i gymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Ros Davis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adnoddau, Cwsmeriaid ac Ynni:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi taith Cymru tuag at ddyfodol carbon is, gan sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar y cyfleoedd y mae hyn yn eu creu.

"Mae'r canllaw newydd yma'n rhannu'r gwersi wedi eu dysgu drwy ein gwaith yn Rhondda Cynon Taf ac yn darparu cymorth ymarferol i sefydliadau sy'n dymuno datblygu eu prosiectau ynni adnewyddadwy eu hunain.

"Drwy gynhyrchu a defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy yn lleol, rydyn ni'n gallu helpu i leihau allyriadau carbon, cryfhau cydnerthedd ynni a chreu buddion sy'n aros o fewn ein cymunedau."

Mae'r canllaw wedi'i lunio i helpu sefydliadau i symud o'r cam cynllunio i'r cam cyflawni, ac i gefnogi datblygiad system ynni lleol sy’n fwy cynaliadwy a chydnerth ledled Cymru.

Lawrlwythwch y canllaw, yma: 

Dyma ragor o wybodaeth am Raglen Ymchwil ac Arloesi Datgarboneiddio Systemau Cyfan Llywodraeth Cymru.

 

Wedi ei bostio ar 14/09/2026