Skip to main content

Bydd Ffair Swyddi Cyngor RhCT a'i Bartneriaid yn dychwelyd yn yr Hydref!

JF wel 3

Cymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa newydd yn Ffair Swyddi Cyngor RhCT a'i Bartneriaid 2026. Bydd yr achlysur am ddim yma'n cael ei gynnal ddydd Iau 15Hydref yn Llyfrgell Pontypridd, Llys Cadwyn, CF37 4TH, rhwng 10am a 2pm. Bydd awr dawel yn cael ei chynnal rhwng 1pm a 2pm.

Bydd y ffair swyddi yn dod ag ystod eang o gyflogwyr sy'n recriwtio ynghyd, gan roi'r cyfle i chi siarad yn uniongyrchol â sefydliadau, dysgu am swyddi gwag cyfredol a dechrau'r broses ymgeisio ar y diwrnod. Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai i'ch helpu chi i baratoi ar gyfer cyfweliad ac ysgrifennu CV. 

Bydd llawer o sefydliadau yn bresennol ar y diwrnod, gyda swyddi mewn amrywiaeth o sectorau sy'n addas ar gyfer pobl o bob oed a phrofiad. Bydd staff Cyngor RhCT hefyd wrth law i ddarparu gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â swyddi gyda'r Cyngor.

P'un a ydych chi'n chwilio am eich swydd gyntaf, ystyried newid gyrfa, neu dim ond yn chwilio am ysbrydoliaeth, mae gan Ffair Swyddi Cyngor RhCT a'i Bartneriaid rywbeth i bawb!

Dywedodd y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae ein Ffair Swyddi'n chwarae rhan bwysig wrth helpu trigolion i ddysgu am gyfleoedd gyrfa newydd, manteisio ar gyngor gwerthfawr a chymryd y cam nesaf yn eu taith at gyflogaeth, gan roi cyfle i fusnesau gwrdd ag ymgeiswyr posibl a chryfhau eu gweithlu.

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein hachlysuron Ffair Swyddi wedi bod yn llwyddiant ysgubol wrth gysylltu trigolion â chyflogwyr sy'n chwilio am weithwyr. Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein trigolion i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth o safon, ac mae hyn yn bwysicach nag erioed gan ystyried y cyd-destun economaidd.  

Drwy ddod â chyflogwyr a phobl sy'n chwilio am swyddi ynghyd, mae modd i ni helpu i greu cysylltiadau ystyrlon sy'n arwain at yrfaoedd newydd a chefnogi twf economaidd lleol. "

Mae modd gweld rhestr o gyflogwyr sydd wedi cadarnhau y byddan nhw’n cymryd rhan isod:

7 Steel

Army Reserves

Atkins Realis

Audit Wales

AVON

British Transport Police

Cardo Group

Care Cymru

Cartrefi

Case-UK

Companies House

Cwm Taf Morgannwg University Health Board

Cynefin Care

Drive

Educators Wales

Envolve Infrastructure

Innovate Trust

Kier

Matrix Agency

Morgan Sindall

Partnership for Progress

Prichards

Q Care

RCT Council Childrens and Adult

RCT Council Foster Wales (RCT)

RCT Democratic Services

RCT Job Vacancies

RCTCBC Mercury Project Cycle Routes

Rubicon

Screen Alliance Wales

SET Recruitment

Smart Solutions

South East Wales Rivers Trust

South Wales Police - Positive action Recruitment

Supply Team Education

Teacher Active

WDL Contracting Ltd

Welsh Guards

Abacare/CCH

Radis

TCG Facilities

Centregreat

Production 78

ARC Training

Business Wales

Interlink

ITEC

JCP / DWP

Llamau Education

RCT Work and Skills

Big Ideas Wales

Business in Focus

Coleg Y Cymoedd

ACT

**Nodwch, mae'n bosibl bydd arddangoswyr gwahanol yno ar y diwrnod.

Wedi ei bostio ar 15/09/2026