Diolch ENFAWR i drigolion Rhondda Cynon Taf am eich ymdrechion ailgylchu rhagorol wrth i'r Fwrdeistref Sirol ymuno â dathliad ailgylchu mwyaf y DU.
Mae Wythnos Ailgylchu 2026 yn cael ei chynnal rhwng 14 a 20 Medi ac mae'r ymgyrch flynyddol yn annog pawb i ailgylchu rhagor o'r pethau cywir, a hynny'n fwy aml, yn ogystal ag atal eitemau ailgylchadwy rhag mynd i'w bagiau gwastraff du.
Eleni, mae gan drigolion Rhondda Cynon Taf ragor o resymau fyth i ddathlu, gydag aelwydydd ledled y Fwrdeistref Sirol wedi ailgylchu mwy na *74% o'u gwastraff dros y chwe mis diwethaf. Mae hyn yn diogelu safle RhCT ymhlith yr awdurdodau ailgylchu â'r cyflawniad gorau yng Nghymru a'r DU.
Mae'r flwyddyn lwyddiannus yma o ailgylchu hefyd wedi gweld trigolion yn helpu'r Cyngor i ragori ar darged ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru yn ogystal â chynyddu ei ganran ailgylchu gwastraff bwyd gan 21% a'i ganran ailgylchu gwastraff sych gan 11%. Bu hefyd gostyngiad o 33% yn nifer y bagiau gwastraff du a gafodd eu casglu.
Mae'r ymgyrch Wythnos Ailgylchu genedlaethol, dan arweiniad menter Recycle Now WRAP, yn canolbwyntio ar helpu pobl i ailgylchu rhagor o'r pethau cywir drwy dynnu sylw at eitemau bob dydd sy'n cael eu taflu i ffwrdd ar ddamwain yn aml. Mae'r ymgyrch eleni yn parhau i ymdrin â'r thema boblogaidd "Achub Fi, Ailgylcha!" sy'n annog trigolion i feddwl ddwywaith cyn rhoi deunyddiau ailgylchadwy yn eu bagiau du.
Ar yr un pryd, mae ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha Cymru'n parhau i rannu negeseuon ailgylchu y tu hwnt i'r cartref, gan annog pobl i wneud y dewisiadau ailgylchu cywir lle bynnag y bônt, gan gynnwys mewn gweithleoedd, ysgolion a mannau cyhoeddus. Nod yr ymgyrch yw helpu Cymru i barhau â'i thaith o fod yn un o genhedloedd ailgylchu gorau'r byd a chyrraedd y brig.
Diolch i ymrwymiad trigolion a gwasanaethau ailgylchu HAWDD iawn y Cyngor, nid yw ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf erioed wedi bod yn haws. Mae casgliadau ailgylchu wythnosol, casgliadau gwastraff bwyd, casgliadau cewynnau a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned i gyd yn helpu trigolion i leihau gwastraff.
Er bod cyflawniad RhCT o ran ailgylchu yn parhau i wella, mae cyfleoedd o hyd i ailgylchu hyd yn oed yn rhagor. Mae gwastraff bwyd yn parhau i fod yn un o'r eitemau sy'n cael ei ganfod gan amlaf mewn bagiau du, er gwaethaf y ffaith bod gan bob aelwyd fynediad at wasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Mae modd ailgylchu eitemau fel croen ffrwythau a llysiau, bagiau te, plîs wyau a bwyd dros ben drwy'r gwasanaeth gwastraff bwyd a'u troi'n ynni adnewyddadwy.
Cofiwch osgoi halogi'ch gwastraff trwy sicrhau bod eitemau ailgylchadwy yn wag, yn lân ac yn sych cyn eu rhoi yn eu bagiau ailgylchu. Mae modd i un eitem halogedig effeithio ar lwyth lori cyfan o gasgliadau, a lleihau ansawdd deunyddiau wedi'u hailgylchu.
Does dim modd casglu popeth wrth ymyl y ffordd, ond mae digon o opsiynau o ran ailgylchu ac ailddefnyddio ar gael ledled Rhondda Cynon Taf:
- Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned sydd ar agor saith niwrnod yr wythnos.
- Pwyntiau ailgylchu offer trydanol bach mewn canolfannau Hamdden am Oes sy'n cymryd rhan.
- Tair siop ailddefnyddio "Y Sied", sy'n helpu eitemau diangen i ddod o hyd i gartref newydd.
- Mannau casglu mewn archfarchnadoedd lleol ar gyfer plastigau meddal, bagiau siopa a batris.
Meddai Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb dros Wastraff ac Ailgylchu, y Cynghorydd Ann Crimmings:
"Hoffwn i ddiolch i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf am eu hymdrechion ailgylchu gwych. Mae ailgylchu mwy na 74% o wastraff cartrefi dros y chwe mis diwethaf yn gamp anhygoel ac yn dangos pa mor ymrwymedig yw ein cymunedau i ddiogelu'r amgylchedd.
"Mae Wythnos Ailgylchu yn gyfle gwych i ni i gyd ystyried yr eitemau rydyn ni weithiau'n eu hanwybyddu. Mae pob potel, can, carton, tun bwyd neu ddarn o fwyd sy'n cael ei ailgylchu, yn lle cael ei roi mewn bag du, yn gwneud gwahaniaeth.
"Rydyn ni'n falch bod ailgylchu yn RhCT yn broses syml, sy'n rhad ac am ddim ac yn hygyrch, gyda chasgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol, Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ac amrywiaeth o gyfleoedd ailddefnyddio ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wella ein cyflawniad o ran ailgylchu, lleihau gwastraff a helpu i gadw Rhondda Cynon Taf yn lân ac yn wyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dysgwch ragor am ailgylchu: www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu
Am ragor o wybodaeth am Wythnos Ailgylchu 2026 a'r ymgyrch genedlaethol ewch i wefan Recycle Now WRAP.
Wedi ei bostio ar 14/09/2026