Skip to main content

Dau Bad Sblasio Newydd ar gyfer Pontypridd a Chwm Rhondda yn rhan o Fuddsoddiad gwerth £12 miliwn ym Mlaenoriaethau'r Cyngor

Mae dau gyfleuster pad sblasio newydd ar gyfer Pontypridd a Chwm Rhondda, yn ogystal â gwelliannau i'r pad sblasio ym Mharc Aberdâr, ymhlith y cynigion buddsoddi mawr a fydd yn cael eu trafod gan y Cabinet yn ddiweddarach y mis yma. 

Mae adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun, 21 Medi, 2026, yn cynnwys cynigion i fuddsoddi £800,000 mewn cyfleusterau padiau sblasio newydd. Mae datblygiadau wedi'u cynnig ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd a Pharc Gelligaled yng Nghwm Rhondda. 

Os caiff y cynigion eu cytuno, bydd pad sblasio Pontypridd yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd a bydd hefyd yn amodol ar gymeradwyaeth Is-bwyllgor Parc Coffa Ynysangharad. Ar gyfer cyfleuster Cwm Rhondda, byddai gwaith dichonoldeb, arolygon safle ac asesiadau addasrwydd yn cael eu cwblhau ym Mharc Gelligaled i sicrhau bod modd cyflawni'r buddsoddiad ac y byddai'n darparu'r budd mwyaf i drigolion ac ymwelwyr. 

Yn ogystal â hyn, caiff trafodaethau eu cynnal hefyd rhwng y Cyngor a Chyfeillion Parc Aberdâr ynghylch cyfleoedd i wella'r pad sblasio presennol yn Aberdâr a'i fodel gweithredu yn y dyfodol. 

Byddai'r cynigion yn gwella ymhellach yr arlwy hamdden i deuluoedd Rhondda Cynon Taf ac yn adeiladu ar lwyddiant Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty a Phad Sblasio poblogaidd Aberdâr. Bydd hyn oll yn helpu i greu'r arlwy chwarae dŵr a nofio awyr agored mwyaf a gorau yng Nghymru.

Caiff £12 miliwn ychwanegol ei gynnig ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor yn 2026/27. Mae hyn ar ben y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol yma sy'n cael ei chyflawni ar hyn o bryd. Y meysydd a fydd yn cael blaenoriaeth yn 2026/27 yw:

  • Priffyrdd a Ffyrdd – £3.5 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan – £3 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon – £3 miliwn
  • Gwaith Lliniaru Llifogydd – £250,000
  • Ffyrdd heb eu mabwysiadu – £150,000
  • Padiau Sblasio – £800,000
  • Parciau a Mannau Gwyrdd – £500,000
  • Parciau Gwledig – £150,000
  • Mannau chwarae – £100,000
  • Gwelliannau Gofal y Strydoedd (biniau) – £25,000
  • Cymorth ynni, trydydd sector – £60,000
  • Datblygiadau sydd yn yr arfaeth yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf – £600,000

 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf,: “Yn fuan, bydd y Cabinet yn trafod y cynigion pwysig yma o ran dyrannu dros £12 miliwn yn fwy ar draws meysydd blaenoriaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol – gan wella ar y Rhaglen Gyfalaf sylweddol ar gyfer 2026/27 sydd wedi’i chyflwyno ers mis Mawrth. Adnodd ychwanegol, untro yw hwn, a fydd yn ehangu ein rhaglen waith mewn rhai meysydd ac yn ein galluogi i fuddsoddi o'r newydd mewn eraill.

“Un o elfennau mwyaf cyffrous y cynigion yma yw’r buddsoddiad o £800,000 tuag at ddau bad sblasio newydd; ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd a Pharc Gelligaled yng Nghwm Rhondda. Rydyn ni'n gwybod bod y cyhoedd yn cefnogi'n gryf atyniadau i deuluoedd a chyfleusterau hamdden awyr agored o ansawdd uchel, ac rydyn ni'n hyderus y bydd y cynigion yma'n hynod boblogaidd gyda thrigolion ac ymwelwyr. Os caiff ei gymeradwyo, bydd gan sir Rhondda Cynon Taf yr arlwy chwarae dŵr a nofio awyr agored mwyaf a gorau yng Nghymru.

Dyma brawf arall o'n rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol Trawsnewid RhCT; o ysgolion a chanolfannau hamdden i welliannau i briffyrdd a phrosiectau cydnerthedd llifogydd, yn ogystal â buddsoddiad yn ein harlwy chwarae, gan gynnwys parciau sglefrio, ardaloedd gemau aml-ddefnydd, ardaloedd chwarae a nawr…. padiau sblasio!"

Mae modd i chi weld yr agenda a’r papurau a fydd yn cael eu trafod yn ystod cyfarfod y Cabinet ar 21 Medi yma.

 

Mae modd i chi ddefnyddio’r ddolen yma i wylio’r cyfarfod, a fydd yn cael ei ffrydio’n fyw, o 10.30am, ddydd Llun, 21 Medi.

Wedi ei bostio ar 14/09/2026