Mae Cai yn Gynorthwy-ydd Gofal, ac mae e wedi bod yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers oddeutu dwy fl ynedd ac mae wir yn mwynhau ei swydd mewn Gofal Preswyl yn gweithio gydag oedolion ag ymddygiad heriol. Mae e hefyd wedi gweithio gyda phobl ym maes Gofal Dementia.
Dechreuodd Cai ei yrfa drwy weithio yng nghegin cartref gofal preswyl. “Roeddwn i’n gweithio yn y gegin yn y cartref preswyl pan sylweddolais i fy mod i’n mwynhau siarad gyda’r preswylwyr mwy nag oeddwn i’n mwynhau coginio. Dyna pryd penderfynais i wneud cwrs hyfforddi mewn gofal yn lle hynny.”
Dilynodd Cai gwrs hyfforddi gafodd ei argymell iddo, a dechreuodd wirfoddoli gyda chleifi on â Dementia. Mae ei waith o ddydd i ddydd yn amrywiol, a does dim un diwrnod yr un fath.
“Rydyn ni’n mynd â phobl i nofi o ac i fowlio, allan am ginio i McDonalds ac allan am ddiod er mwyn ymlacio. Oni bai ein bod ni’n mynd â phobl allan, fydden nhw ddim yn cymdeithasu tu hwnt i’r cartref preswyl. Dwi’n meddwl ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau.”
Hoff ran Cai o’i swydd yw meithrin perthnasoedd a siarad â’r bobl mae e’n gofalu amdanyn nhw. “Weithiau, mae’n anodd, ond mae’n dod â boddhad mawr i fi hefyd.”