Skip to main content

Cofrestru ar gyfer y taliad i gynhalwyr di-dâl

Mae proses gofrestru'r cynllun wedi ailagor am gyfnod o 3 wythnos ar gyfer unrhyw geisiadau hwyr. Bydd y cynllun yn cau'n ffurfiol am 5pm ar 2 Medi 2022.

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yma ac wedi derbyn canlyniad mewn perthynas â'ch cais (h.y. taliad neu gadarnhad sy'n nodi nad ydych chi'n gymwys), peidiwch ag ailgyflwyno cais. Dyma ffurflen gofrestru ar-lein ar gyfer CEISIADAU NEWYDD YN UNIG.

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno ffurflen gofrestru ac angen cymorth pellach neu os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r cynllun hwn, cysylltwch â ni: CCAGD@rctcbc.gov.uk

Os nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yma ac rydych chi'n credu eich bod yn bodloni’r amodau ar gyfer taliad, cofrestrwch ar-lein. Dyma'r ffordd fwyaf di-drafferth o sicrhau eich bod chi'n derbyn eich taliad yn brydlon.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol i gwblhau'r broses gofrestru:

Sample Table
  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeiriad (gan gynnwys cod post)
  • Rhif ffôn cyswllt
  • Cyfeiriad E-bost
  • Enw ar y cyfrif
  • Cod Didoli
  • Rhif y Cyfrif Banc

Cyflwyno'ch cais:

Mae modd cofrestru i gyflwyno cais ar gyfer y taliad i gynhalwyr di-dâl ar-lein drwy glicio'r ddolen isod.

Cofrestru ar-lein yw'r ffordd gyflymaf a hawsaf o dderbyn eich taliad.

cofrestrwch nawr ar gyfer y taliad i gynhalwyr di-dal

Os nad ydych chi'n sicr p'un a ydych chi'n gymwys i gael y taliad, bwriwch olwg ar ein Taflen Ffeithiau - Cynllun Cymorth Ariannol i Gynhalwyr Di-dâl

Rhaid derbyn pob ffurflen gofrestru cyn 5pm ar 2 Medi 2022. Bydd taliadau ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud rhwng mis Awst a diwedd mis Hydref 2022.

Os oes angen cymorth arnoch chi i gwblhau'r ffurflen gofrestru, cysylltwch â'r Cyngor drwy ffonio 01443 680686. Os ydych chi'n cysylltu â ni, gwnewch yn siŵr bod gyda chi'r holl fanylion personol angenrheidiol. Cofiwch y bydd y llinell gymorth yma'n eithriadol o brysur yn ystod y cyfnod hwn ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros am ymgynghorydd i'ch helpu neu ffonio'n ôl rywbryd eto.

Os byddai'n well gennych wneud eich cais wyneb yn wyneb, trefnwch apwyntiad yn eich Canolfan IBobUn leol.

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno ffurflen gofrestru ac angen cymorth pellach neu os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r cynllun hwn, cysylltwch â ni: CCAGD@rctcbc.gov.uk