Skip to main content

Trosglwyddo'r Gwasanaeth Llinell Fywyd i Ddigidol

Mae rhwydwaith ffôn y DU yn newid. Rhwng nawr a diwedd 2027, bydd pob darparwr ffôn yn symud llinellau ffôn sefydlog eu cwsmeriaid o dechnoleg o'r enw analog i un sy'n ddigidol. 

Mae 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn golygu bod angen diweddaru neu ailgyflunio eich offer presennol, megis larwm argyfwng Llinell Fywyd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithio'n effeithiol.  

Mae'r Cyngor wrthi'n cynllunio gwaith uwchraddio ar gyfer trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y gwaith uwchraddio yn cael ei gwblhau dros y ddwy flynedd nesaf a phan fydd eich dyfais/dyfeisiau Llinell Fywyd yn barod i gael ei huwchraddio/eu huwchraddio, bydd aelod o'n carfan yn cysylltu â chi i wneud y trefniadau angenrheidiol i beiriannydd ymweld â'ch eiddo ar amser sy'n gyfleus i chi.

Byddwch yn effro bod adroddiadau wedi'u derbyn am sgamiau lle gofynnwyd i bobl am wybodaeth bersonol ac ariannol mewn perthynas â'r 'Trosglwyddo i Ddigidol'. Cofiwch fod y 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn rhad ac a ddim ac ni fydd y Cyngor byth yn gofyn am wybodaeth ariannol mewn perthynas â'r trosglwyddiad yma. Bydd holl beirianwyr RhCT yn cario cerdyn adnabod er mwyn eich cadw chi'n ddiogel.

Isod mae rhestr o gwestiynau cyffredin a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r broses o 'Drosglwyddo i Ddigidol', beth sydd angen i chi ei wneud a sut bydd Rhondda Cynon Taf yn eich cefnogi chi drwyddo.

Cwestiynau Cyffredin

C: Beth sy'n digwydd?

A: Mae rhwydwaith ffôn y DU yn newid. Bydd pob darparwr ffonau'n trosglwyddo llinellau ffôn sefydlog eu cwsmeriaid yn raddol o system ffonau analog i system ddigidol fodern. Gelwir hyn yn y 'Trosglwyddiad i Ddigidol'. Bwriedir cwblhau'r trosglwyddiad yma erbyn dechrau 2027.

C: Pam mae hyn yn digwydd?

A: Mae'r Trosglwyddiad i Ddigidol yn digwydd er mwyn gwella ansawdd a dibynadwyedd rhwydwaith ffonau'r DU. Dydy hen rwydweithiau wedi'u gwneud o wifrau copr ddim yn addas mwyach ac mae'n rhaid eu diweddaru er mwyn ateb y galw yn y dyfodol.

C: Pryd bydd hyn yn digwydd? 

A: Rhwng nawr a dechrau 2026, bydd pob darparwr ffôn yn symud llinellau ffôn sefydlog eu cwsmeriaid o dechnoleg o'r enw analog i un sy'n ddigidol. Os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes, bydd eich darparwyr (e.e. BT, TalkTalk, Sky ac ati), yn rhoi gwybod i chi am eu cynlluniau i symud ymlaen â’r newid yma a phryd mae’n debygol o ddigwydd. 

Bydd gwaith uwchraddio i ddyfais/dyfeisiau Gwifren Achub Bywyd ar gyfer trigolion ar draws y Fwrdeistref Sirol hefyd yn cael ei gwblhau dros y 12 mis nesaf. Pan fydd eich dyfais/dyfeisiau Gwifren Achub Bywyd yn barod i gael ei uwchraddio/eu huwchraddio, bydd aelod o'n carfan yn eich ffonio chi i wneud y trefniadau angenrheidiol i beiriannydd ymweld â'ch eiddo ar amser sy'n gyfleus i chi.

C: Fydd y Trosglwyddiad i Ddigidol yn effeithio ar fy ngwasanaeth Gwifren Achub Bywyd neu Teleofal?

A: Bydd - mae 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn golygu bod angen diweddaru neu ailgyflunio eich offer presennol, megis uned larwm argyfwng Gwifren Achub Bywyd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithio'n effeithiol.

Bydd angen i'r Cyngor ymweld â'ch eiddo ar ddyddiad cyfleus i osod yr offer newydd. Mae'r newidiadau yma'n rhad ac am ddim a dylen nhw fod yn syml.

C: Beth fydd y Cyngor yn ei wneud?

A: Mae'r Cyngor wrthi'n cynllunio sut i uwchraddio dyfais/dyfeisiau Gwifren Achub Bywyd i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n amnewid eich uned larwm argyfwng Gwifren Achub Bywyd analog gydag uned Gwifren Achub Bywyd Ddigidol newydd. Pan fydd eich dyfais/dyfeisiau Gwifren Achub Bywyd yn barod i gael ei uwchraddio/eu huwchraddio, bydd aelod o'n carfan yn eich ffonio chi i wneud y trefniadau angenrheidiol i beiriannydd ymweld â'ch eiddo ar amser sy'n gyfleus i chi. Bydd peiriannydd yn gosod yr offer newydd. Mae'r newidiadau yma'n rhad ac am ddim a dylen nhw fod yn syml. Bydd y gwaith uwchraddio yma'n cael ei gynnal dros gyfnod o 12 mis.

Os nad ydych chi wedi derbyn llythyr gan eich darparwr yn nodi dyddiad ar gyfer y trosglwyddiad, does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd.

Os bydd eich darparwr ffôn yn cysylltu â chi i symud ymlaen â'r broses 'Trosglwyddo i Ddigidol' cyn i ni gysylltu â chi, rhowch wybod iddyn nhw fod gyda chi ddyfais Gwifren Achub Bywyd a allai gael ei effeithio gan newid i'ch llinellau. Weithiau bydd pobl yn defnyddio enwau gwahanol ar gyfer y dyfeisiau yma, megis "Gwasanaeth Larwm Teleofal (Telecare Alarm Service)", “Larymau Llinell Ofal (Careline Alarms)”, “Larwm Argyfwng (Emergency Alarm)”, “Teclyn Larwm Gwddf (Pendant Alarm)”, neu “Declynnau Gwddf ar gyfer Iechyd (Health Pendants)”. Ar ôl i'ch darparwr gysylltu â chi, ffoniwch ni'n uniongyrchol ar 01443 425050. 

C: Mae gen i uned Gwifren Achub Bywyd Ddigidol eisoes, pam ydw i wedi derbyn llythyr?

A: Gyda'ch caniatâd, hoffen ni ddiweddaru'r gosodiadau ar eich uned Gwifren Achub Bywyd Ddigidol a defnyddio Wi-Fi eich cartref. Bydd hyn yn sicrhau bod y cysylltiad â'n canolfan ymateb yn gyflymach, yn fwy dibynadwy ac yn caniatáu cyfathrebu cliriach rhyngoch chi a'n gweithredwyr.

C: Does gen i ddim Wi-Fi yn fy nghartref. Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

A: Peidiwch â phoeni, mae modd i ni osod uned Gwifren Achub Bywyd Ddigidol a fydd yn cysylltu â'n canolfan ymateb. Os oes gyda chi'r uned Gwifren Achub Bywyd Ddigidol eisoes ond bod dim Wi-Fi gyda chi, yna mae gosodiad eich uned wedi'i gwblhau a fydd dim angen i ni ymweld eto.

 

C: Sut byddwn ni'n cysylltu â chi? 

A: Efallai eich bod chi wedi derbyn llythyr gennym ni'n rhoi gwybod i chi y byddwn ni'n eich ffonio chi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Pan fyddwn ni'n eich ffonio chi, byddwn ni'n gwneud y trefniadau perthnasol i beiriannydd ymweld â chi ar ddyddiad addas.

C: Pryd fydd gosodwr yn dod i'm heiddo?

A: Bydd aelod o'r garfan Gwifren Achub Bywyd yn eich ffonio chi i drefnu amser cyfleus i alw heibio o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Nodwch, bydd y gosodwr yn cario cerdyn adnabod bob amser.

C: Pam ydw i wedi derbyn llythyr? Does dim dyfais Gwifren Achub Bywyd gen i.

A: Rydyn ni wedi anfon llythyrau at holl gwsmeriaid y gwasanaeth Gwifren Achub Bywyd a'u personau cyswllt mewn argyfwng i roi gwybod iddyn nhw y dylen nhw ddisgwyl galwad ffôn gennym ni gyda rhagor o wybodaeth. Os nad oes gyda chi ddyfais Gwifren Achub Bywyd eich hun, byddwch chi wedi derbyn llythyr gan eich bod chi wedi'ch rhestru fel person cyswllt mewn argyfwng ar gyfer un o ddefnyddwyr ein gwasanaeth.

C: Fydd cost ynghlwm? 

A: Na fydd. Mae'r newidiadau yma'n rhad ac am ddim ac ni fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf byth yn gofyn am wybodaeth ariannol neu wybodaeth bersonol dros y ffôn. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, bydd pob peiriannydd y Cyngor sy'n ymweld â'ch eiddo'n cario cerdyn adnabod.

 

 

Cofiwch fod y 'Trosglwyddo i Ddigidol' yn rhad ac a ddim ac ni fydd y Cyngor byth yn gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol dros y ffôn. Bydd holl beirianwyr RhCT yn cario cerdyn adnabod er mwyn eich cadw chi'n ddiogel.