Skip to main content

Colli Golwg neu Glyw

Mae carfan o arbenigwyr gyda ni sydd wrth law i gynorthwyo'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan golli golwg neu glyw. 

Mae modd iddyn nhw helpu pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, pobl sy'n colli'u golwg, a phobl sy’n fyddar ac yn ddall. Ydych chi’n cael problemau gyda’ch clyw neu’ch golwg? Mae’n bosibl y byddwn ni’n gallu’ch helpu chi.   

Mae'r Garfan Gwasanaethau Synhwyraidd yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol arbenigol a swyddogion adfer sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor. Dyma’r cam cyntaf tuag at fyw mewn ffordd annibynnol yn eich cartref eich hun.

Mae gweithwyr adfer yn darparu asesiad arbenigol a gwasanaethau i bobl sydd wedi colli’u golwg. Mae’r gwaith yn cynnwys: 

  • Ystyried cyflwr llygaid pobl, a sut mae hyn yn effeithio ar fywyd bob dydd 
  • Cymhorthion i bobl prin eu golwg, goleuo, a gwrthgyferbyniad lliwiau
  • Medrau byw’n annibynnol 
  • Hyfforddiant sgiliau cyfathrebu
  • Darparu offer
  • Hyfforddiant symudedd o dan do ac yn yr awyr agored

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth yma, gan gynnwys sefydliadau eraill a all helpu, edrychwch ar ein taflen ffeithiau.

Pe hoffech chi dderbyn help ein Carfan Gwasanaethau Synhwyraidd, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith:

Carfan Ymateb ar Unwaith

E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425003 

Mae'r Gwasanaeth Argyfwng y Tu Allan i Oriau Swyddfa yn ymateb ar frys i achosion o argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos.

Ffôn: 01443 743665 / 01443 657225