Skip to main content

Micro-ofal – Darparwyr Gofal Annibynnol Bach

Mae darparwyr Micro-ofal yn cynnig gofal hyblyg, personol a lleol yn eich cartref. Maen nhw'n cefnogi annibyniaeth, dewis a rheolaeth.

Ar y dudalen yma

Ynglŷn â Micro-ofal
- Chwilio am ddarparwr Micro-ofal
- Pam dewis Micro-ofal?
- Sut i drefnu Micro-ofal
- Cysylltwch â darparwr Micro-ofal
- Codi pryderon
- Straeon go iawn

Ynglŷn â Micro-ofal

Mae Darparwyr Micro-ofal yn helpu pobl i fyw'n dda ac yn annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Mae darparwyr fel arfer yn cynnig:

  • Cymorth yn y cartref - Cymorth gyda glanhau, siopa, coginio a gofalu am anifeiliaid anwes.
  • Cwmni - Cwmni a chymorth i gymryd rhan mewn gweithgareddau a theithiau.
  • Gofal personol - Mae modd i hyn gynnwys cymorth gyda bwyta neu yfed, golchi, gwisgo a meddyginiaeth. Dydy pob gwasanaeth Micro-ofal ddim yn darparu gofal personol.

Mae modd trefnu Micro-ofal gan ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol neu dalu amdano'n breifat.

Chwilio am ddarparwr Micro-ofal

Mae modd chwilio am ddarparwyr Micro-ofal lleol gan ddefnyddio cyfeiriadur Dewis Cymru.

Chwiliwch am ddarparwyr Micro-ofal yn lleol

Mae'r darparwyr Micro-ofal a restrir yn y cyfeiriadur yma wedi'u cefnogi gan sefydliad o'r enw Catalyddion Cymunedol. Mae'r gefnogaeth yma'n helpu darparwyr i gymryd y camau cyfreithiol a phroffesiynol addas i sefydlu eu hunain. Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i'r Safonau Ei Gwneud Hi'n Iawn, fodd bynnag, dydy Cyngor RhCT ddim yn achredu nac yn cymeradwyo Darparwyr Micro-ofal yn ffurfiol.

Mae'r Safonau Ei Gwneud Hi'n Iawn yn gyfres o safonau ansawdd a diogelwch. Mae'r rhain yn cwmpasu meysydd fel:

  • cydymffurfiaeth gyfreithiol
  • disgwyliadau o ran iechyd a diogelwch
  • yswiriant
  • gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • gwerthoedd a disgwyliadau o ran ansawdd

Pam dewis Micro-ofal?

Mae Cyngor RhCT yn cefnogi ymdrechion i greu a thyfu mentrau Micro-ofal. Mae'r gwasanaethau yma'n darparu cefnogaeth wedi'i theilwra'n fanwl, yn meithrin perthnasoedd cryf ac ymddiriedus, ac yn helpu pobl i lunio'r ffordd mae eu gofal yn cael ei ddarparu. Mae'r dull yma'n cyd-fynd yn agos â'r Strategaeth Gwasanaethau i Oedolion ar gyfer 2025–2030.

Mae tystiolaeth o'r blynyddoedd diwethaf yn dangos bod pobl leol yn cael budd o gynlluniau o'r fath mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • amseroedd aros llai
  • parhad o ran cefnogaeth
  • gwasanaethau wedi'u cynllunio o amgylch eu hanghenion penodol
  • gofal a ddarperir gan weithwyr sy'n adnabod eu cymunedau'n dda

Mae mentrau Micro-ofal hefyd yn helpu i gadw arian yn yr ardal leol, creu swyddi, a chefnogi cymunedau cryf sydd â chysylltiadau da. Mae'r manteision yn ymestyn y tu hwnt i'r rhai sy'n derbyn gofal yn uniongyrchol.

Gallai defnyddio darparwr Micro-ofal fod yn addas i chi os ydych chi eisiau:

  • yr un person i ymweld â chi'n rheolaidd
  • ymweliadau hyblyg a hirach
  • gwasanaeth lleol sydd wedi'i adeiladu ar berthnasau dibynadwy

Efallai na fydd darparwyr Gofal Micro yn addas os oes angen:

  • gofal drwy'r dydd a'r nos, neu nifer fawr o oriau gofal, arnoch chi
  • gwasanaeth gofal sy'n cael ei reoli neu ei reoleiddio'n llawn
  • gofal a chymorth arbenigol iawn

Gan fod gwasanaethau Micro-ofal yn fach iawn, a dydyn nhw ddim yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn yr un modd ag asiantaethau gofal mwy, dydyn nhw ddim yn addas i bawb.

Mae tri pheth pwysig i'w hystyried:

  • Gwneud gwiriadau addas. 
    Mae hyn yn cynnwys gwirio cwmpas yr yswiriant, gwiriad priodol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ac ystyried a yw'r gwasanaeth yn diwallu eich anghenion. 
  • Cyfarwyddo a chydlynu gofal
    Bydd angen i chi reoli a chydlynu eich gofal a'ch cefnogaeth yn barhaus.
  • Cynllunio ar gyfer newidiadau
    Dylech gytuno ar gynlluniau addas ar gyfer ymweliadau wedi'u canslo, salwch neu gyfnodau gwyliau yn uniongyrchol gyda'r fenter Micro-ofal.

Sut i Drefnu Micro-ofal

Os ydych chi'n gymwys i gael gofal a chymorth a ariennir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, gallwch siarad â'ch rheolwr gofal am dderbyn Taliadau Uniongyrchol. Mae modd i hyn eich galluogi i brynu cymorth gan ddarparwr Micro-ofal.

Gallwch hefyd ddewis talu'n breifat am gymorth gan fenter Micro-ofal.

Sut bynnag y byddwch chi'n ariannu eich gofal, bydd angen i chi lofnodi contract gyda'r darparwr Micro-ofal. Bydd hyn yn cadarnhau pa fath o gymorth y byddwch chi'n ei gael a'r telerau ac amodau. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod chi'n dilyn y cytundeb

Cysylltwch â Darparwr Micro-ofal

Chwiliwch am ddarparwr Micro-ofal (dolen DEWIS)

Ffoniwch am gymorth i ddod o hyd i gefnogaeth: 01443 425003

Siaradwch â'ch Rheolwr Gofal neu holwch y Gwasanaethau i Oedolion

Codi Pryderon 

Os nad yw rhywbeth yn taro deuddeg, mae'n bwysig eich bod chi'n dweud eich dweud. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gyflym trwy drafodaeth agored a gonest.

Os yw eich pryder yn ymwneud â chymorth rydych chi'n ei dderbyn gan ddarparwr Micro-ofal, dylech chi ei godi gyda'r darparwr yn uniongyrchol yn y lle cyntaf. Mewn llawer o achosion, bydd cyfathrebu clir yn datrys y broblem.

Os ydych chi'n dal yn anfodlon, mae modd i chi ddod â'ch contract gyda'r darparwr Micro-ofal i ben yn unol â'r cyfnod rhybudd sydd wedi'i nodi yn eich contract. Os oes gyda chi reolwr gofal, efallai y bydd modd iddo eich helpu i ddatrys eich pryderon.

Os oes gyda chi bryder heb ei ddatrys ynghylch diogelwch neu les, neu bryder clir ynghylch diogelu, cysylltwch â charfan ddiogelu’r awdurdod lleol.

Straeon Go Iawn