Skip to main content

Llyfrgell Adnoddau

Adnoddau defnyddiol ar gyfer eich gwaith neu astudiaethau.

Cod Ymarfer ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Mae'r Codau ar gael yn www.socialcare.wales

Mae Cod Ymarfer Proffesiynol hefyd ar gyfer cyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol.

Mae hwn ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/cms-assets/documents/Cod-i-Gyflogwyr.pdf

Hyfforddiant diogelu ar-lein newydd ar gael nawr

Mae hyfforddiant ar-lein newydd bellach ar gael i helpu pobl ledled Cymru i sylwi ar arwyddion cam-drin, niwed neu esgeulustod o blant neu oedolion. Mae’r pecyn yn rhoi dealltwriaeth ymarferol o ddiogelu i ddysgwyr ac mae wedi’i ddatblygu gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a gafodd ei lansio yn 2019.

Mae'r modiwl e-ddysgu wedi'i anelu at y rheiny sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys y rheiny sy'n gobeithio gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn ogystal ag ym maes iechyd, y gwasanaethau brys a chynghorau lleol.

Mae modd i chi gyrchu'r cwrs yn https://gofalcymdeithasol.cymru/modiwlau-dysgu/grwp-a-diogelu

Cwrs Cymraeg rhad ac am ddim i weithwyr gofal cymdeithasol

Mae modd i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ddysgu Cymraeg am ddim, diolch i gwrs ar-lein newydd.

Rydyn ni wedi creu'r cwrs Camau mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn arbennig ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae'n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr sy'n canolbwyntio ar y geiriau a’r termau Cymraeg y mae gweithiwyr yn fwyaf tebygol o'u hangen wrth gyfathrebu gyda phobl y maen nhw'n eu cefnogi. Mae'r modiwl Mynediad yn addas i ddechreuwyr ac mae'n cymryd tua 60 awr i'w gwblhau (3 adran, 20 awr yr un). Mae'n cyfrif tuag at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi’u cofrestru a bydd pawb sy'n cwblhau’r cwrs yn derbyn tystysgrif.

"Gall defnyddio'r Gymraeg, bod yn ychydig o eiriau, helpu pobl i deimlo'n gynwysedig ac yn fwy cyfforddus."

Cyrchwch y cwrs yma: Gofal Cymdeithasol Cymru | Cwrs newydd am ddim yn helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddysgu Cymraeg

Atal a Rheoli Heintiau

Mae arfer da sy’n seiliedig ar atal a rheoli heintiau yn hanfodol ar gyfer cynnal amgylchedd diogel i bawb a lleihau'r risg o ledaenu heintiau a chlefydau heintus.

Cyrchwch yr wybodaeth yma: Atal a Rheoli Heintiau | Gofal Cymdeithasol Cymru

Y fframwaith Gwaith Da

  • Mae’n cefnogi datblygiad dulliau dysgu a datblygu effeithiol ar gyfer dementia
  • Mae’n sicrhau bod gofal a chymorth dementia yn unol â 'beth sydd bwysicaf' i bobl gyda dementia
  • Mae’n seiliedig ar ddamcaniaethau o seicoleg gadarnhaol.

Mae’r damcaniaethau yma’n:

  • canolbwyntio ar ystyr a phwrpas
  • adeiladu ar gryfderau yn hytrach na nodi diffygion
  • defnyddio iaith gadarnhaol sy’n seiliedig ar gryfderau sy’n ganolog i ddull sy’n seiliedig ar gryfderau.

Pobl sydd wrth wraidd y fframwaith Gwaith Da. Mae hyn yn golygu bod eu hannibyniaeth a'u lles yn hanfodol i'r ffordd rydyn ni'n gweithio. Mae hefyd yn golygu y dylen ni gydnabod bod pobl yn dibynnu ar ei gilydd neu eu bod yn 'rhyngddibynnol'. Er enghraifft, gyda theulu, ffrindiau, staff gofal cyflogedig a chymunedau lleol.

Canllaw syml, ymarferol y mae modd i sefydliadau a phartneriaethau ei ddefnyddio i roi fframwaith Gwaith Da dementia ar waith.

Straeon o'r sector

Rydyn ni wedi casglu straeon gan bobl go iawn sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghwm Taf. Cliciwch ar y dolenni isod i gyrchu'r adnoddau:

Hyfforddiant Fframwaith Cenedlaethol am ddim i Gymru Stori Events | Eventbrite

Gwiriwr lefel iaith Gymraeg ar gael yma

Tudalennau llesiant newydd Gofal Cymdeithasol Cymru yma