Y diffiniad eang o oedolyn sydd mewn perygl yw: "Person 18 oed neu’n hŷn sydd efallai ag angen y Gwasanaethau Gofal Cymuned arno/arni, oherwydd anabledd meddyliol neu anabledd arall, oed neu salwch, ac sy’n gofalu amdano/amdani ei hun neu’n methu â gwneud hynny, neu’n methu ag amddiffyn ei hun rhag niwed sylweddol neu ecsbloetio difrifol."
Cam-drin oedolion yw pan fydd person yn cael ei drin mewn ffordd wael neu mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'n ofnus neu'n anhapus, yn cael ei niweidio neu'i ecsbloetio – yn arbennig gan rywun mae'r person yn ei adnabod neu y dylai allu ymddiried ynddo. Gall y cam-drin amrywio o drin rhywun ag amarch mewn ffordd sy'n effeithio'n sylweddol ar ansawdd ei fywyd, i achosi dioddefaint corfforol gwirioneddol.
Ymhlith y mathau o gam-drin, mae:
Cam-drin corfforol megis taro, gwthio, gwasgu, ysgwyd, camddefnyddio meddyginiaeth, sgaldio, tynnu gwallt.
Cam-drin rhywiol megis gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol digroeso, cyffwrdd yn amhriodol, trais rhywiol, ymosodiadau rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad yw'r oedolyn sy'n agored i niwed wedi cytuno iddyn nhw (neu na fyddai modd iddo gytuno), neu weithredoedd rhywiol yr oedd y person yn teimlo o dan bwysau i'w cyflawni.
Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol megis bygylu, bygwth, anwybyddu yn fwriadol, cywilyddio, beio, rheoli, gorfodi, aflonyddu, defnyddio cam-drin geiriol, atal ffrindiau neu deulu rhag ymweld neu rwystro rhag derbyn gwasanaethau neu gymorth.
Cam-drin ariannol megis lladrata arian rhywun, neu ei wario ar y pethau anghywir, rhoi pwysau ar rywun i wneud newidiadau i'w ewyllys neu wario'i arian yn erbyn ei ddymuniadau, twyll neu gam-fanteisio, pwysau mewn cysylltiad ag eiddo, etifeddiaeth, camddefnyddio eiddo neu fudd-daliadau.
Esgeulustod megis anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol, rhwystro mynediad i wasanaethau iechyd, gofal neu addysg, peidio â gofalu am rywun yn briodol, peidio â darparu digon o fwyd, rhoi person mewn perygl.
Gall unrhyw un o'r mathau yma o gam-drin fod naill ai'n fwriadol neu'n deillio o anwybodaeth, neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth. Yn aml, mae'r person yn cael ei gam-drin mewn mwy nag un ffordd.
Pwy all fod yn gyfrifol am y cam-drin?
Gall y bobl ganlynol fod yn gyfrifol am gam-drin oedolion sydd mewn perygl: perthnasau ac aelodau o'r teulu, staff proffesiynol, gweithwyr gofal cyflogedig, oedolion eraill sydd mewn perygl, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth eraill, cymdogion, ffrindiau a chymdeithion, pobl sy'n ecsbloetio pobl mewn perygl yn fwriadol, dieithriaid a phobl oportiwnistaidd. Gall unrhyw un fod yn gyfrifol am y cam-drin.
Ble mae'r cam-drin yn digwydd?
Gall cam-drin ddigwydd yn unrhyw le – mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, mewn canolfan oriau dydd neu sefydliad addysg, mewn tai â chymorth, yn y stryd neu yng nghartref yr oedolyn sydd mewn perygl ei hun. Gall cam-drin fod yn weithred untro neu fe all barhau dros nifer o fisoedd neu flynyddoedd.
Os oes gennych chi sail resymol i amau bod oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin, dyma'r hyn y dylech chi'i wneud:
- peidio â chymryd yn ganiataol bydd rhywun arall yn delio â'r broblem, dylech chi gymryd camau eich hun yn ddiymdroi
- peidio â phoeni am gamddeall y sefyllfa – mae'n well bod yn ddiogel nac yn edifar a thrafod eich pryderon gyda pherson profiadol a chyfrifol sy'n gallu gwneud asesiad gwybodus
- rhoi gwybod i rywun am eich pryderon a sicrhau bydd eich amheuon yn cael eu harchwilio'n llawn
- cysylltu â'r asiantaeth fwyaf addas yn yr amgylchiadau (yr heddlu os ydych chi'n teimlo bod y cam-drin yn gyfystyr â throsedd, neu feddyg / ambiwlans os yw'r person angen triniaeth feddygol, neu ein Cydlynydd Amddiffyn Oedolion os problem gofal cymdeithasol yw hi)
- gofyn am esboniad a dilyn eich pryderon os ydych chi'n dal yn anfodlon â'r ymateb rydych chi'n ei dderbyn
Os ydych chi'n amau bod person mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin (neu'n dal i ddioddef), neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd, yn eich barn chi, yn cael ei gam-drin, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith ar 01443 425003
Oriau agor:
Llun - Iau 8.30am - 5pm
Gwener 8.30am - 4.30pm
Ar gau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc
Argyfyngau y tu allan i oriau arferol: Er mwyn cysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol y tu allan i oriau arferol, ar y penwythnos a gwyliau banc, cysylltwch â Charfan ar Ddyletswydd Cwm Taf ar 01443 743665 / 01443 657225
I roi gwybod am drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, cysylltwch â'ch gorsaf heddlu leol, neu i gael cymorth yr heddlu yn ddifrys, deialwch 101.