Skip to main content

Rhoi gwybod am rywun sydd mewn perygl

Rydyn ni wedi ymrwymo i atal cam-drin ac yn ymateb yn brydlon pan fo camdriniaeth yn cael ei hamau. Mae pob galwad sydd ynghylch pryderon am oedolyn a allai fod mewn perygl o niwed, yn cael ei chymryd o ddifrif. 
Os ydych chi'n amau bod person mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin (neu'n dal i ddioddef), neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd, yn eich barn chi, yn cael ei gam-drin, cysylltwch â'n
Carfan Ymateb ar  Unwaith ar 01443 425003 

Oriau agor:  
Llun – Iau 8.30am – 5pm
Gwener 8.30am – 4.30pm  Ar gau ar ddydd Sadwrn,
dydd Sul a Gwyliau Banc

Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith:  

Er mwyn cysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol y tu allan i oriau arferol, ar y penwythnos a gwyliau banc, cysylltwch â Charfan ar Ddyletswydd Cwm Taf ar 01443 743665 / 01443 657225

Os ydych chi'n wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol, wedi wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu'n poeni am ffrind neu berthynas sy'n wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol, mae modd cael cymorth lleol yma: 

 

Canolfan Oasis (sy'n delio â dynion a menywod)

Ffoniwch Uned Diogelwch Pontypridd: 01443 494190

 

Cewch chi hefyd ymweld â gwefan Uned Diogelwch Pontypridd i gael rhagor o wybodaeth 

Bydd yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrthon ni yn cael ei drin â sensitifrwydd, ond efallai y bydd rhaid i ni ddweud wrth bobl eraill os bydd angen eu help arnon ni er mwyn eich amddiffyn chi neu'r person sy'n cael ei gam-drin.  

Os ydych chi'n teimlo'n nerfus ynglŷn â siarad â gwasanaethau cymdeithasol, siaradwch â rhywun rydych chi'n teimlo'n gyfforddus ag ef a gofyn i'r person yma drosglwyddo’r wybodaeth. Gallai hwn fod yn rhywun sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd megis meddyg neu nyrs, neu rywun arall mewn awdurdod. Gallech chi hefyd ddweud wrth ffrind neu berthynas rydych chi'n ymddiried ynddo.

Lle bynnag rydych chi'n byw, p'un ai mewn cartref gofal neu yn eich cartref eich hun (neu os ydych chi wedi ymweld â'r llefydd yma) ac wedi bod yn dyst i gam-drin, neu wedi profi cam-drin, gallwch chi ffonio Gwasanaethau Cymdeithasol.