Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnig seremonïau enwi. Mae seremonïau enwi’n ffordd o groesawu eich babi newydd neu blentyn hŷn i’r teulu, a rhoi cyfle i’r teulu a’ch ffrindiau agos gael rhannu’r achlysur hapus yma gyda chi.
Beth yw Seremoni Enwi?
Pan fydd teulu yn dathlu geni babi newydd, weithiau byddan nhw’n teimlo'r hoffen nhw ddathlu’r achlysur drwy gasglu teulu a ffrindiau ynghyd. Diben Seremoni Enwi Sifil yw bodloni anghenion unigryw eich teulu a rhoi’r cyfle i groesawu’r aelod newydd i’r teulu ac i’r gymuned. Mae’n gyfle i rieni ddatgan yn gyhoeddus ac o flaen eu teulu a’u ffrindiau, eu bod nhw’n addo i ymroi’n llwyr i roi magwraeth dda i’r plentyn drwy ei garu, ei gefnogi a’i feithrin tan ei fod yn oedolyn.
Mae Seremoni Enwi yn fodd o ddatgan eich ymrwymiad i’ch plentyn o flaen teulu a ffrindiau, gan roi cyfle i uno’r bobl arbennig hynny fydd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd eich plentyn. Mae’n achlysur unigryw ac urddasol sy’n gyfle i bawb deimlo eu bod yn rhan ohoni ac i’ch rhieni neu deulu sy’n oedolion gadarnhau eu perthynas gyda’ch plentyn drwy gynnig cefnogi datblygiad eich plentyn. Yr enw ar yr oedolion hyn yw Oedolion Cefnogol.
Gellir cynnal Seremoni Enwi hefyd i ddathlu a chroesawu plant maeth neu lysblant i deulu. Gall plant o bob oed gael Seremoni Enwi – efallai yr hoffai rhieni gynnwys plant hŷn yn ogystal â’r plentyn newydd yn y seremoni, neu efallai'r hoffen nhw gynnal seremoni enwi’n syth ar ôl seremoni briodas. Beth bynnag y byddwch chi’n ei ddewis, mae Seremoni Enwi yn achlysur unigryw a phersonol sydd wedi’i deilwra i fodloni anghenion unigryw'r teulu.
Does gan Seremoni Enwi na Thystysgrif Ddathliadol ddim statws cyfreithiol.
Mae Seremoni Enwi yn seremoni seciwlar a fydd e ddim yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau crefyddol. Os hoffech chi gynnal seremoni grefyddol, cysylltwch â’ch eglwys neu gymuned grefyddol leol.
Mae Seremoni Enwi yn ddewis arall os nad ydych chi’n teimlo y byddai bedydd crefyddol yn briodol.
Dydyn ni ddim yn briod – oes modd i ni gael Seremoni Enwi ar gyfer ein plentyn?
Gall rhieni drefnu Seremoni Enwi, p’un ai ydyn nhw’n briod â’i gilydd neu beidio. Gallwch chi hefyd gael Seremoni Enwi os ydych chi’n rhiant sengl. Gall unrhyw berson sy’n warcheidwad cyfreithiol neu sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn drefnu Seremoni.
Mae gan y fam naturiol gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig.
Ar gyfer genedigaethau a gofrestrwyd ar ôl 1af Rhagfyr 2003, mae gan y tad naturiol hefyd gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig os ydyw’n briod â’r fam neu os yr arwyddodd y gofrestr geni gyda’r fam. Os cofrestrodd y fam yr enedigaeth ar ei phen ei hun, fydd gan y tad naturiol ddim cyfrifoldeb rhiant yn awtomatig.
Gall unrhyw berson arall gael cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Byddai rhaid dangos tystiolaeth o hyn.
Gan nad oes gan Seremonïau Enwi Statws Cyfreithiol, does dim modd i chi ddefnyddio’r Seremoni Enwi i newid enw cyntaf plentyn oni bai bod gyda chi’r awdurdod i wneud hynny. Mewn rhai achosion, mae rhaid i’r llysoedd awdurdodi newid enw cyntaf plentyn.
Os nad ydych chi’n siŵr a oes gyda chi hawl i newid enw cyntaf eich plentyn, dylech chi ofyn am gyngor cyfreithiol cyn trefnu’r seremoni.
Oes modd i ni gynnal Seremoni Enwi ar yr un pryd â phriodas, partneriaeth sifil neu ail-ddatgan addunedau priodas?
Mae’n bosibl i bâr drefnu Seremoni Enwi i ddilyn eu Priodas, Partneriaeth Sifil neu Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas. Weithiau, bydd pâr yn dymuno gwneud hyn os ydyn nhw wedi mabwysiadu plentyn, pan mae llysblant yno neu os yw’r pâr wedi bod gyda’i gilydd am beth amser. Bydd y Cofrestrydd Arolygol fydd yn cynnal eich Priodas, Partneriaeth Sifil neu Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas yn gallu trafod hyn ymhellach gyda chi.
Ble mae modd cynnal Seremoni Enwi?
Yn Rhondda Cynon Taf, gall seremonïau gael eu cynnal yn y Gofrestrfa Ranbarthol ym Mhontypridd neu yn un o’r “Lleoliadau Cymeradwy” sydd ar restr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd. Dyma restr o’r lleoliadau lle mae modd cynnal seremonïau sifil yn Rhondda Cynon Taf.
Ffioedd
(Ffioedd sy’n gymwys i Seremonïau Enwi yn y Swyddfa Gofrestru ac yn Lleoliadau/Eiddo Cymeradwy)
- Ffi Trefnu/Cadw Dyddiad – tâl bach ar wahân yw’r ffi yma, i sicrhau y cewch chi’r dyddiad ac amser o’ch dewis ymlaen llaw cyn eich seremoni. Does dim modd ei ad-dalu.
- Ffi ymgynghori – Hon sydd i’w thalu i’r Gweinydd pan ddewch chi i drafod cynnwys eich seremoni. Does dim modd ei had-dalu os caiff y seremoni ei chanslo. Os byddwch chi’n canslo’r seremoni, byddwn ni’n ad-dalu’r ffi yma, cyhyd â’ch bod wedi cyflwyno hysbysiad mewn ysgrifen a’n bod yn ei dderbyn cyn pen mis cyn y seremoni arfaethedig.
- Ffi Seremoni – Dyma ffi am bresenoldeb y Gweinydd yn eich seremoni. Rhaid talu hon ymlaen llaw, adeg yr ymgynghoriad.
- Ffi am dystysgrif - Croeso ichi brynu Tystysgrif Goffaol i nodi’r achlysur, os dymunwch chi.
Yr Awdurdod Lleol sy’n gosod y ffioedd yma. Caiff y ffioedd eu hadolygu bob blwyddyn, ac maen nhw’n agored i gael eu newid.
Trefnu/’Archebu’ dyddiad ymlaen llaw (dros dro)
Mae hi’n syniad da i drefnu seremoni cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn berthnasol p’un ai ydych chi am gynnal eich seremoni yn y Swyddfa Gofrestru, neu mewn lleoliad cymeradwy.
Mae’r rhan fwyaf o leoliadau cymeradwy yn yr ardal yn rhedeg system trefnu/archebu dros dro. Bydd hyn yn fodd i chi wneud eich trefniadau ar gyfer eich seremoni lawer ynghynt. O wneud hyn, mae modd ichi wneud eich holl drefniadau angenrheidiol mewn da bryd.
Fe ddylech chi wneud trefniant dros dro yn ysgrifenedig at y Cofrestrydd Arolygol yr ardal lle rydych chi’n bwriadu cynnal eich seremoni.
Manylion archebu
Hoffech chi drefnu seremoni neu ragor o wybodaeth? Croeso i chi gysylltu â ni:
Y Cofrestrydd Arolygol
Swyddfa Gofrestru,
Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP
Ffon: 01443 486869
Noder: Mae rhai apwyntiadau hwyrach yn y dydd ar gael ar ddydd Mawrth. Os ydych chi am drefnu un o'r apwyntiadau yma, gofynnwch am hyn wrth ffonio'r swyddfa i drefnu eich apwyntiad.