Skip to main content

Genedigaethau ailgofrestru

Beth ddylwn i ei wneud os bydda i’n priodi tad y plentyn ar ôl cofrestru’r enedigaeth?

Os na fyddwch chi wedi priodi tad y plentyn adeg cofrestru’r enedigaeth, ond eich bod chi wedi ei briodi erbyn hyn, mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i chi gofrestru’r enedigaeth eto, hyd yn oed os cafodd manylion y tad eu rhoi ar y ffurflen pan gafodd yr enedigaeth ei chofrestru’n wreiddiol.

Mae’r broses yma’n diweddaru’r cofnod o’r enedigaeth er mwyn dangos eich statws priodasol. Cysylltwch â’ch swyddfa gofrestru leol i gael rhagor o wybodaeth/cyngor.

Ychwanegu manylion y tad at ffurflen cofrestru genedigaeth yn hwyrach ymlaen.

Os na nodwch chi fanylion y tad biolegol adeg cofrestru’r enedigaeth yn y lle cyntaf, ond eich bod chi am eu nodi nhw nawr, cysylltwch â’ch swyddfa gofrestru leol i gael rhagor o wybodaeth/cyngor.

Newid enw cyntaf plentyn

Mae’n bosibl newid enw cyntaf eich plentyn cyn pen 12 mis o gofrestru’r enedigaeth.

I gael rhagor o wybodaeth/cyngor am newid enw cyntaf neu gyfenw eich plentyn, cysylltwch â’ch swyddfa gofrestru leol.

Beth os bydda i wedi gwneud camgymeriad wrth gofrestru?

Rhaid ichi wirio cofnod y gofrestr yn ofalus er mwyn sircrhau bod y wybodaeth yn gywir. Bydd ffi o hyd at £90 i ystyried unrhyw gwyiriad i gofnod sydd eisoes wedi’i chwblhau

Unwaith y bydd y gwaith papur wedi’i gwblhau, mae modd i chi brynu copi llawan o’r cofnod, sy’n cynnwys enwau’r rhieni, am gost o £11 am bob tystygrif

Nodwch: Mae’r swyddfa uchod yn gweithredu system apwyntiadau yn unig. Ffoniwch y swyddfa i drefnu apwyntiad sy’n gyfleus i’r ddwy ochr cyn dod

Swyddfa Gofrestru Pontypridd

Municipal Buildings,
Gelliwastad Road
CF37 2DP

Ffôn: 01443 486869

Noder: Mae rhai apwyntiadau hwyrach yn y dydd ar gael ar ddydd Mawrth. Os ydych chi am drefnu un o'r apwyntiadau yma, gofynnwch am hyn wrth ffonio'r swyddfa i drefnu eich apwyntiad.