Skip to main content

Cofrestru Genedigaeth

Rydyn ni'n deall bod bywyd yn brysur i chi ar hyn o bryd, ond mae cofrestru genedigaeth eich plentyn yn bwysig. Efallai yr hoffech chi ystyried ambell beth cyn dod i'n gweld ni.

Pryd ddylech chi gofrestru'r enedigaeth?

Rhaid cofrestru pob genedigaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o fewn 42 diwrnod o enedigaeth y plentyn.

Pwy sy'n gallu cofrestru'r enedigaeth?

Mae'r gofynion ar gyfer cofrestru genedigaeth yn wahanol ar gyfer rhieni di-briod a rhieni sydd wedi priodi neu'n bartneriaid sifil. Cliciwch ar y ddolen isod i wirio'r canllawiau diweddaraf ar Gov.uk cyn trefnu eich apwyntiad:

Pwy sy’n gallu cofrestru genedigaeth? - www.gov.uk/register-birth/who-can-register-a-birth

Mae goblygiadau o ran cyfrifoldeb rhiant ynghlwm â chofrestru'r enedigaeth hefyd. Mynnwch olwg ar y canllawiau diweddaraf yma.

Babi a aned yn Rhondda Cynon Taf

Mae modd cofrestru babi a aned yn ardal Rhondda Cynon Taf yma: Adeiladau'r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP

Mae cofrestru yn cymryd tua 20 i 30 munud ar gyfer un babi a rhaid trefnu apwyntiad ymlaen llaw.

Sylwer: Mae'r archeb ar-lein ar gyfer babanod syn cael eu geni yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg Rhondda Cynon Taf IE / Gartref sy'n dod o dan Rhondda Cynon Taf.

Os cafodd eich babi ei eni y tu allan i Ysbyty Tywysog Charles Rhondda Cynon Taf (Merthyr Tudful) neu unrhyw ardal arall. Cysylltwch â ni am apwyntiad NEU gallwch gysylltu â'r ardal y ganwyd y babi ynddi i drefnu apwyntiad.

Ffoniwch 01443 494034 i drefnu apwyntiad, neu mae modd defnyddio'r ddolen yma i gadw lle ar-lein:
Mae modd prynu copi llawn o'r cofnod geni, sy'n cynnwys enwau'r rhieni ar yr adeg cofrestru am £12.50.

Babi a aned y tu allan i Rondda Cynon Taf

Os ydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf ond cafodd eich plentyn ei eni y tu allan i'r ardal, er enghraifft, mewn ysbyty mewn sir gyfagos, mae modd naill ai:

Trefnu apwyntiad i gofrestru'r enedigaeth yn Swyddfa Gofrestru'r ardal lle cafodd y babi ei eni.

Neu

Trefnu apwyntiad yn ein swyddfa ym Mhontypridd i lenwi a llofnodi datganiad sy'n nodi'r manylion i'w cofnodi ar y gofrestr. Byddwn ni'n blaenyrru'r datganiad i'r swyddfa briodol, yn yr ardal lle cafodd y babi ei eni, ar eich rhan. Wedyn, bydd y swyddfa berthnasol yn anfon tystysgrifau atoch chi.

Pa ddogfennau sydd angen i mi eu cyflwyno?

Dewch ag o leiaf un dull adnabod gyda chi i'r apwyntiad. Mae enghreifftiau wedi'u nodi isod:

  • pasbort
  • tystysgrif geni
  • gweithred newid enw
  • trwydded yrru
  • tystiolaeth o'ch cyfeiriad (e.e. bil cyfleustodau)
  • bil Treth y Cyngor
  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil

Byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi ddod ag unrhyw bapurau rhyddhau o'r ysbyty neu gytundeb magu plant gyda chi i'ch apwyntiad, yn ogystal ag unrhyw ddogfennau ategol fel tystysgrifau geni, priodas a thystiolaeth i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth sy'n cael ei chofnodi.

Pa wybodaeth y bydd rhaid i fi ei rhoi i'r cofrestrydd?

Yn yr apwyntiad, byddwn ni'n gofyn am fanylion enwau, dyddiadau, cyfeiriadau a lleoedd er mwyn llenwi'r cofnod cofrestru. Wrth gofrestru, dylech chi wybod:

  • dyddiad a man geni'r plentyn (os cafodd mwy nag un babi ei eni gan y fam yn ystod yr enedigaeth, bydd yr amser geni'n cael ei nodi hefyd)
  • rhyw'r plentyn a'i enw llawn
  • enwau llawn y rhieni ynghyd â'u dyddiadau geni a'u mannau geni
  • Cyfeiriadau a galwedigaethau'r rhieni
  • Dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil y rhieni a chyfenw'r fam cyn priodi (os yw'n berthnasol)

Mae'n bwysig bod yr wybodaeth sy'n cael ei chofnodi yn y gofrestr yn gywir - dim ond trwy broses gywiro ffurfiol y bydd modd unioni unrhyw wall. Mae modd i hyn achosi anghyfleustra ac efallai y bydd angen i chi fynd i gostau ychwanegol.

Cofrestru Dwyieithog

Pe hoffech chi gofrestru'r enedigaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, trafodwch hyn gyda'r cofrestrydd pan fyddwch chi'n trefnu'ch apwyntiad.

Beth yw'r costau?

Efallai y bydd rhai sefydliadau yn gofyn i chi ddarparu COPI CYFLAWN o'r cofnod geni. Mae modd prynu tystysgrifau llawn, sy'n cynnwys manylion y rhieni ar adeg y cofrestru, am £12.50 yr un.

Cymorth Arbennig

Os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf, a byddech chi'n hoffi i rywun eich helpu chi gyda'r cofrestru, gofynnwch i berthynas neu ffrind sy'n siarad ac yn deall Cymraeg neu Saesneg i ddod yn gwmni i'r apwyntiad.

Cofiwch fod rhaid i chi gofrestru'r enedigaeth wyneb yn wyneb. Does dim modd gofyn i aelod o'r teulu na ffrind i ddod i'r apwyntiad ar eich rhan.

Os oes angen cymorth arall neu ychwanegol arnoch chi, mynnwch air â'r Cofrestrydd wrth i chi ffonio i drefnu apwyntiad.

Rhieni sydd ddim yn Brydeinwyr

Os dydy un rhiant ddim yn Brydeiniwr, neu os dydy'r ddau riant ddim yn Brydeinwyr, dylech chi gysylltu â'r Llysgenhadaeth neu'r Conswl perthnasol yn y wlad yma ar ôl cofrestru'r enedigaeth.

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch Cenedligrwydd Prydeinig ar gyfer eich plentyn, cysylltwch â'r Swyddfa Gartref.

Cofiwch fod dyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gofrestru'r enedigaeth o fewn 42 diwrnod.

Rhagor o Wybodaeth

Os hoffech chi ragor o wybodaeth neu gymorth ynglŷn â chofrestru genedigaeth, cysylltwch â'ch Swyddfa Gofrestru leol ym Mhontypridd trwy ffonio (01443) 494024. Byddwn ni'n hapus i gynnig cyngor pellach i chi. Fel arall, ewch i Gov.uk i fynnu'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf mewn perthynas â Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau.