Mae modd gwneud taliadau dros y ffôn ac mae modd i ni ddelio â'ch ymholiadau dros y ffôn neu drwy e-bost. Mae'r manylion yma isod:
- Amlosgfa Glyn-taf – 01443 402810
- AmlosgfaGlyntaf@rctcbc.gov.uk - Ymholiadau am fynwentydd Amlosgfa Glyn-taf, Cwm Taf a Chwm Cynon.
- Amlosgfa Llwydcoed - 01685 874115 AmlosgfaLlwydcoed@rctcbc.gov.uk – Ymholiadau am Amlosgfa Llwydcoed a mynwentydd Cwm Cynon.
Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Bydd yr awdurdod yn ymdrechu i fodloni gofynion y teulu mewn profedigaeth ac i ddarparu ar gyfer anghenion penodol yn ôl credoau crefyddol ac ati. Gall claddedigaethau ddigwydd yn ystod unrhyw ddyddiau'r wythnos, ac eithrio gwyliau banc, yn amodol ar argaeledd.
Bydd yr Awdurdod yn ceisio gwneud ei orau i fodloni gofynion teuluoedd galarus. Fe wnawn ni bob ymdrech i ddiwallu anghenion sy’n benodol i ddaliadau crefyddol, ayyb.
Pryd y gall claddedigaethau ddigwydd?
Gall claddedigaethau ddigwydd yn ystod yr wythnos, ac eithrio gwyliau banc, yn amodol ar argaeledd.
Prynu bedd
Mae beddau fel arfer yn cael eu prynu ar adeg y claddu er bod rhai Mynwentydd yn cynnig y gwasanaeth o werthu beddau ymlaen llaw i bobl sy’n dymuno blaengynllunio a dewis eu bedd. I gael rhagor o fanylion am brynu beddau ymlaen llaw, cysylltwch â’r Rheolwr Mynwentydd Cynorthwyol yn y Fynwent briodol. 01443 402810
Mae hawl i gladdu ar ddiwrnodau o’r wythnos, ac eithrio gwyliau banc, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael.
Yn amlach na pheidio, Trefnwr Angladdau sy’n cydlynu claddedigaethau ond mae modd ichi gael rhagor o fanylion trwy gysylltu â Swyddfa’r Fynwent berthnasol.
Wrth brynu bedd ar adeg claddu bydd eich Trefnwr Angladdau fel arfer yn eich helpu i wneud y trefniadau angenrheidiol ond gallwch gysylltu â swyddfa’r Fynwent yn uniongyrchol os ydych yn dymuno gwneud eich trefniadau eich hun. Pa bynnag ddull y byddwch yn ei ddewis fe’ch cynghorir i edrych ar yr adran o’r Fynwent lle bydd y claddu yn digwydd ymlaen llaw. Bydd aelod o staff yn cwrdd â chi ar y safle i’ch cynorthwyo os byddwch yn dymuno gwneud hyn.
Beth yn union byddaf yn berchen arno?
Byddwch wedi prynu’r hawl i gladdu arch neu gasgedau yn cynnwys gweddillion wedi eu hamlosgi (yn briodol i’r llain), yng ngofod y bedd a bennwyd ar y weithred a gyhoeddwyd. Ni all unrhyw berson arall awdurdodi ymyrryd â’r bedd yn y dyfodol heb eich caniatâd chi am yr amser a nodir ar y weithred.
Byddwch hefyd wedi prynu’r hawl i roi cofeb ar y bedd (yn amodol ar ganiatâd). Ni all unrhyw berson arall awdurdodi codi cofeb heb eich caniatâd ysgrifenedig.
Er eich bod wedi prynu’r hawl i ddefnyddio’r bedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy’n berchen ar y tir ei hun o hyd.
Am beth mae'r Awdurdod yn gyfrifol?
Yn ystod y misoedd sy’n dilyn yr angladd, bydd y pridd yn y bedd yn suddo’n raddol. Bydd gweithwyr y fynwent yn dodi ychwaneg o bridd i mewn i’w godi i’r lefel arferol.
Pan fydd yn briodol, rhoddir glaswellt ar y bedd, naill ai trwy osod hadau neu dywyrch. Caiff y glaswellt sy’n cael ei blannu ei gynnal gan yr Awdurdod.
Byddwn yn cymryd pob gofal wrth gloddio beddau o amgylch eich un chi. Fodd bynnag, wrth gloddio, gall fod yn angenrheidiol rhoi pridd ar eich bedd, neu i symud peiriannau drosto. Os bydd hyn yn angenrheidiol, byddwn yn gwneud pob ymdrech i amddiffyn y tir a’i ailosod mor gyflym â phosibl.
Am beth mae perchennog y bedd yn gyfrifol?
Chi fydd yn gyfrifol am gadw’r Weithred rown ni i chi’n ddiogel. Chi hefyd sy’n gyfrifol am unrhyw gofeb rowch chi ar y bedd. O ganlyniad, chi fydd yn atebol am unrhyw ddifrod i’r gofeb gan unrhyw berson, unrhyw eitem, neu unrhyw weithred gan Dduw. Un eithriad sydd i hyn: os un o weithwyr y Cyngor fydd wedi achosi’r difrod, bydd cynllun yswiriant y Cyngor yn talu am atgyweirio’r difrod. Rydyn ni wedi cyfarwyddo ein holl weithwyr i ddweud ar unwaith os bydd unrhyw ddifrod damweiniol. Drwy hyn mae modd inni wneud y gwaith atgyweirio’n gyflym.
Rydych hefyd yn gyfrifol am ddiogelwch hirdymor unrhyw gofeb yr ydych wedi ei rhoi ar y bedd. Mae llawer o bobl wedi cael eu hanafu neu eu lladd hyd yn oed gan gofebion ansefydlog mewn Mynwentydd. Rydych yn gyfrifol am gynnal a chadw’r cofebion er mwyn sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr y Mynwentydd.
Fe’ch cynghorir yn gryf i yswirio unrhyw gofebion. Bydd eich saer maen yn gallu rhoi manylion i chi.
Am ba hyd y gallaf brynu bedd?
Rhoddir gweithredoedd newydd a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am 100 mlynedd o ddyddiad eu prynu. Bydd gan yr Awdurdod fanylion perchenogaeth unrhyw feddau a brynwyd cyn hynny ar y weithred.
Pa fathau o feddau sydd ar gael?
Mae sawl math o fedd ar gael, gan gynnwys:
- Beddau traddodiadol
- Beddau lawnt
- Beddau plant
- Lleiniau amlosgi
- Lleiniau crefyddau penodol
Cysylltwch â Mynwentydd unigol am fanylion ynghylch pa feddau sydd ar gael.
Chwilio Hanes Teulu - Chwilio am Fedd
Bydd aelodau o staff yn barod iawn i roi cymorth i chi gyda chwilio hanes teulu, ond oherwydd blaenoriaethau eraill efallai bydd hyn ddim yn bosibl ar unwaith. Y ffordd orau i gael gafael ar yr wybodaeth yma ydy ysgrifennu at Swyddfa’r Fynwent berthnasol gyda’r ffi ofynnol a bydd aelodau o staff yn chwilio trwy gofnodion ar y cyfle cyntaf un.
Cofiwch fod eisiau i chi gynnwys cymaint o wybodaeth gywir ag sy’n bosibl, gan gynnwys:
- Enw'r person sydd wedi marw - cyfenw ac enwau cyntaf os yn bosibl
- Oedran
- Cyfeiriad pan fu farw neu pan gafodd ei gladdu
- Dyddiad marw neu gladdu
- Enw'r fynwent
- Unrhyw fanylion pellach a all fod o gymorth gyda'r chwiliad
Rydyn ni’n fodlon chwilio am enw un person am ddim ond byddwn ni’n codi tâl o £15 ar gyfer pob enw arall.
Mae croeso i chi chwilio ein mynegai Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau ar-lein i ddod o hyd i gofnodion am y bobl hynny sydd wedi marw yn y Fwrdeistref Sirol.