Skip to main content

Hysbysiad o Cais i adnewyddu'r drwydded

Hysbysiad o Gais am ail-drwyddedu cymeradwyo mangre yn ganolfan ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf drwy hyn yn hysbysu bod y cais canlynol wedi’i wneud ar gyfer all-drwyddedu cymeradwyo’r frangre a enwir isod ar gyfer gweinyddu priodasau a chofrestru partneriaethau sifil yn unol ag adran 26(1)(bb) Deddf Priodasau 1949 ac adran 6(3A)(a) Deddf Partneriaethau Sifil 2004.

Mangre - Neuadd y Ddinas Llantrisant Llantrisant CF728SP

Mae modd archwilio’r cais a’r cynlluniau are gyfer y fangre yn y Swyddfa Gofrestru, Adeiladau’r Cyngor, Gelliwastad Road, Pontypridd, rhwng 9:30am a 4.00pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.

Caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cais yn ysgrifenedig, gan nodi’r rhesymau dros wneud hynny, cyn pen 21 niwrnod o gyhoeddi’r papur newydd lle mae’r hysbysiad yma’n ymddangos. Cyflwynwch unrhyw hysbysiad o’r fath i’r isod –

Louise Davies

Y Swyddog Priodol ar gyfer Materion Cofrestru

Gwasanaeth lechyd a Diogelwch y Cyhoedd

Ty Elai, Trewiliam , Tonypandy CF40 1NY