Os oes rhaid i chi fyw mewn eiddo sy'n cael ei ddarparu gan eich cyflogwr, efallai bydd modd i chi gael gostyngiad o  50% ar Dreth y Cyngor.
 
Mae hyn yn berthnasol os yw'r trethdalwr yn gorfod byw mewn eiddo cyflogwr yn amod o'i gyflogaeth.
Y dystiolaeth sydd ei hangen i chi wneud cais am ostyngiad yw:
- Eich bod yn talu treth y cyngor ar gyfer eiddo arall
 
- Bod eich cyflogwr wedi darparu'r eiddo yr ydych yn hawlio gostyngiad amdano
 
- Bod contract eich cyflogaeth yn mynnu i chi i fyw yn yr eiddo yna
 
Gwneud cais am ostyngiad neu eithriad treth y cyngor ar-lein
Nodwch:  Bydd rhaid i chi barhau i dalu eich bil(iau) Treth y Cyngor hyd nes y bydd canlyniad eich cais wedi ei benderfynu. Os bydd hyn yn achosi problemau, ewch i'r dudalen   Trafferthion Talu eich Bil 
Dileu gostyngiad treth y cyngor sy'n gysylltiedig â swydd ar-lein
 
Rhaid i chi roi gwybod i'r Cyngor os bydd unrhyw newidiadau i'ch trefniadau byw, amgylchiadau personol, sefyllfa ariannol neu incwm y byddai modd iddyn nhw effeithio ar eich hawl i gael gostyngiad Treth Gyngor.