Mae'r Cyngor yn cydnabod bod nifer o ffactorau megis y pandemig, y rhyfel yn Wcráin a'r Argyfwng Costau Byw wedi effeithio'n sylweddol ar sefyllfa ariannol trigolion ac aelwydydd yn Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymhlith yr effeithiau mwyaf y mae’r Cyngor wedi’u hwynebu yn dilyn yr heriau yma yw bod aelwydydd yn cael trafferth talu’u biliautreth y Cyngor ar amser. Mae nifer y bobl sydd mewn dyled treth y Cyngor yn RhCT wedi codi'n flynyddol ers 2020.
Os ydych chi'n cael trafferth talu'ch bil treth y Cyngor, dyma ychydig o gymorth:
Siarad â rhywun - Dydych chi ddim ar ben eich hun ac mae cymorth ar gael. Gall y Cyngor gynnig ambell opsiwn i chi, fel:
- Talu'ch bil treth y Cyngor dros gyfnod o 12 mis yn lle 10 mis
- Talu trwy ddebyd uniongyrchol a dewis dyddiad sy'n fwy gyfleus i chi dalu fel nad ydych chi'n anghofio gwneud eich taliadau
- Talu unrhyw ddyledion sydd gennych dros gyfnod hirach
Cymryd rheolaeth - Mae arbenigwyr dyled yn awgrymu eich bod yn cyfrifo faint o ddyled sydd gennych, i bwy, pa ddyledion yw'r rhai mwyaf brys a faint sydd angen i chi ei dalu bob mis.
Gwiriwch eich bod chi'n cael yr arian iawn. Defnyddiwch y wefan annibynnol MoneyHelper neu gyfrifianellau budd-daliadau sy'n cael ei rhedeg gan Policy in Practice a'r elusennau Entitledto a Turn2us.
Gofynnwch am egwyl. Os ydych chi'n derbyn cymorth dyled yn Lloegr a Chymru, gallwch chi wneud cais am egwyl talu er mwyn eich amddiffyn rhag llog a chostau ychwanegol am hyd at 60 diwrnod.
Os fydda i ddim yn talu, beth fydd yn digwydd?
Rhybuddion atgoffa a gwŷs
Os nad ydych chi'n talu eich Treth y Cyngor ar amser, byddwn ni'n anfon hysbysiad atoch i'ch atgoffa. Os na fyddwch chi'n talu'r rhandaliad neu'r rhandaliadau (os oes gyda chi fwy nag un yn ddyledus) wedi hynny, byddwch chi'n derbyn Nodyn Atgoffa Terfynol ac os na fyddwch chi'n talu'r swm yma mewn pryd, byddwch chi'n colli'ch hawl i dalu mewn rhandaliadau a byddwn ni'n gofyn i chi dalu'r swm llawn sy'n ddyledus am y flwyddyn.
Os na allwch chi dalu'n llawn, cysylltwch â ni ar unwaith i gytuno ar drefniant addas, fel arall byddwch chi'n derbyn gwŷs ac yn wynebu costau.
Gorchymyn Atebolrwydd
Mae gennych chi hawl i fynychu gwrandawiad llys, pryd y byddwn ni'n gwneud cais am Orchymyn Atebolrwydd a fydd yn rhoi pwerau ychwanegol i ni gasglu'r arian sy'n ddyledus.
Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os cawn Orchymyn Atebolrwydd ac yn gofyn i chi lenwi ffurflen am eich sefyllfa ariannol. Gall beidio â chwblhau'r ffurflen hon arwain at ddirwy uchaf o £500 gan y Llys Ynadon. Unwaith y byddwn wedi cael Gorchymyn Atebolrwydd, gallwn dynnu swm penodol o'ch cyflog. Os ydych chi'n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, rydyn ni'n gofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i dynnu swm o'ch budd-daliadau.
Nodwch - nid yw'r canlynol yn amddiffyniadau yn erbyn y Gorchymyn Atebolrwydd ac, yn gyffredinol bydd y gorchymyn yn cael ei gymeradwyo os yw'r swm yn ddyledus a heb ei dalu:
- Does dim digon o arian gyda chi i dalu'r bil treth y Cyngor
- Rydych chi wedi gwneud cais am Ostyngiad treth y Cyngor, neu ddisgownt neu unrhyw ostyngiad arall ac yn aros i glywed gan y Cyngor
- Rydych chi wedi cyflwyno apêl ond dydych chi ddim wedi derbyn gan y Cyngor neu Dribiwnlys.
Atafaelu enillion
Os ydych wedi derbyn gorchymyn atafaelu enillion neu os ydych chi’n gyflogwr sydd wedi cael ei ofyn i dynnu swm o enillion gweithiwr.
Casgliad gan Asiant Gorfodi (bailiff yn y gorffennol)
Os yw pob ymdrech arall i gytuno ar drefniant talu yn methu, byddwn ni'n trosglwyddo'r ddyled i Asiantau Gorfodi (EA's) sydd wedi'u cyflogi gan y Cyngor i'w casglu. Byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol pan fydd yr Asiantau Gorfodi'n casglu'r ddyled.
Os nad yw’r Asiantau Gorfodi'n llwyddo i gasglu’r ddyled, byddwn yn dechrau achos i'ch gwneud chi'n fethdalwr, neu i osod gorchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo. O ganlyniad i unrhyw un neu rai o'r cyrsiau hyn o weithredu, byddwch chi'n wynebu costau pellach.
Ysgrifennwch at:
Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST
Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708