Os oes person sy'n anabl yn barhaol (oedolyn neu blentyn) yn byw yn eich eiddo, efallai y cewch ostyngiad ar eich bil Treth y Cyngor.
I fod yn gymwys i gael gostyngiad, rhaid i'ch eiddo gael un o'r nodweddion isod, sy'n hanfodol, neu'n bwysig, ar gyfer lles y preswylydd anabl:
- Ystafell sy'n cael ei defnyddio yn bennaf gan y person anabl – heblaw'r ystafell ymolchi, y gegin neu'r tŷ bach (er enghraifft, ystafell ar gyfer cadw offer dialysis).
- Ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol ar gyfer y person anabl.
- Lle ychwanegol y tu mewn i'r eiddo er mwyn defnyddio cadair olwyn.
Wrth ystyried os ydy gostyngiad yn gymwys, rhaid i'r Cyngor benderfynu ar yr effaith ar y person anabl pe nad oedd y nodwedd ychwanegol yno – hynny yw, ni fyddai'r person anabl yn gallu parhau i fyw yno, byddai ei iechyd yn dioddef neu y byddai ei anabledd yn mynd yn fwy difrifol.
Swm y gostyngiad.
Os bydd eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad, bydd eich bil Treth y Cyngor yn cael ei ostwng i'r band prisio union o dan y band sydd i'w weld yn y rhestr brisio.
Er enghraifft, os ydych chi'n byw mewn eiddo Band D, bydd eich bil Treth y Cyngor yn gostwng i'r tâl ar gyfer eiddo Band C.
Ni fydd hyn yn effeithio ar werth eich cartref na'i fandio ar y rhestr brisio. Yn yr enghraifft yma, bydd eich eiddo yn dal i fod ym Mand D yn y rhestr brisio.
Os yw eich cartref ym Mand A (sef y band isaf ar gyfer Treth y Cyngor), byddwn ni'n cynnig gostyngiad sydd gyfwerth â 1/9 o'r tâl ar gyfer eiddo ym Mand D.
Sut i wneud cais am ostyngiad person anabl
Gwneud cais am ostyngiad person anabl
Cofiwch sicrhau eich bod yn parhau i dalu eich bil Treth y Cyngor wrth aros am ganlyniad y cais. Ydych chi'n cael problemau talu eich bil ? Croeso i chi fynd i'r dudalen wybodaeth berthnasol, neu gysylltu â ni ar unwaith.
Canslo gostyngiad person anabl ar-lein
Rhaid i chi roi gwybod i'r Cyngor ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol, trefniadau byw neu sefyllfa ariannol a allai effeithio ar eich hawl i gael Gostyngiad Treth y Cyngor.
Tŷ Oldway House
Y Porth
CF39 9ST
Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708