Os byddwch ar ei hôl hi gyda'ch taliadau Treth y Cyngor, a bod gennym wybodaeth gyswllt ar eich cyfer, efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn.
Os byddwn yn eich ffonio, bydd yn ymddangos fel ‘RCTCBC’, o’r rhif ffôn 01443 425002.
Pan gaiff ei ateb, bydd y neges wedi’i recordio ymlaen llaw yn gofyn i chi gadarnhau pwy ydych, ac yna'n mynd ymlaen i roi manylion eich taliad(au) Treth y Cyngor sy'n ddyledus ac opsiynau ar sut i wneud taliad.