Negeseuon testun, e-bost a llais Treth y Cyngor

Os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch taliadau Treth y Cyngor, a bod gennym wybodaeth gyswllt ar eich cyfer, efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy neges destun, e-bost a/neu alwad ffôn gyda neges wedi’i recordio ymlaen llaw. 

Dyma fanylion yr hyn y dylech ddisgwyl ei dderbyn gyda phob math o neges:  

Message

Neges Destun 

Bydd negeseuon testun yn cael eu derbyn gan ‘RCTCBC’ 

Computer-Mouse
E-bost

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn anfon e-byst 

Mobile-Phone

Galwad ffôn 
(neges wedi'i recordio ymlaen llaw) 

Bydd y rhif ffôn 01443 425002 yn eich ffonio, sy’n ymddangos fel ‘RCTCBC’