Os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch taliadau Treth y Cyngor, a bod gennym wybodaeth gyswllt ar eich cyfer, efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy neges destun.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn anfon neges destun atoch. Bydd yn cynnwys eich enw, fel y mae'n ymddangos ar eich bil Treth y Cyngor, ac yn gofyn i chi glicio ar ddolen i wirio pwy ydych:

Bydd y ddolen yn cynnwys 'rctcbc.gov.uk' o hyd ac ar ôl clicio, bydd yn cyflwyno tudalen wirio ichi gadarnhau eich cod post:

Unwaith y bydd yn cadarnhau pwy ydych, bydd tudalen newydd yn ymddangos a fydd yn rhoi manylion eich taliad(au) Treth y Cyngor sy'n ddyledus ac yn rhoi dolenni pellach i chi i allu gwneud taliad, trwy ein llinell dalu awtomataidd, a'n gwefan. Bydd hefyd yn rhoi manylion cyswllt i chi pe hoffech drafod eich taliad(au) dyledus: