Skip to main content

 

 

Trafferth talu eich treth y Cyngor

Mae sawl modd o gael cymorth os ydych chi'n cael trafferth wrth dalu eich bil.

Gwiriwch ein disgowntiau a gostyngiadau treth y Cyngor.

Os ydych chi ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau penodol mae'n bosibl y bydd modd i chi gael gostyngiad treth y Cyngor at ddibenion lleihau eich bil. Gwiriwch a oes modd i chi hawlio gostyngiad

Mae sawl modd o leihau eich bil treth y Cyngor sydd o bosibl yn berthnasol i chi Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael disgowntiau, eithriadau neu ostyngiadau treth y Cyngor.

Gwiriwch eich hawliau budd-daliadau

Mae'n bosibl eich bod heb fod yn cael budd-daliadau sydd ar gael i chi – gan eich bod heb fod yn eu hawlio ar hyn o bryd. Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau Helpwr Arian i wirio eich bod chi'n cael yr arian mae gyda chi hawl iddo.

Newid y modd rydych chi'n talu

Yn ôl y drefn arferol, mae eich taliadau treth y Cyngor yn cael eu rhannu dros 10 mis o'r flwyddyn. Mae modd i chi leihau eich bil misol drwy ofyn i ni eu rhannu dros 12 mis yn hytrach na 10. 

Os ydych chi'n talu drwy ddebyd uniongyrchol mae modd i chi ddewis talu ar 1,15 neu 25 o bob mis. O wneud taliadau yn fuan wedi i chi gael eich talu, mae modd i chi reoli eich arian yn well.

Ffoniwch ni ar 01443 425002 er mwyn rhannu'r taliadau dros 12 mis neu newid y dyddiad rydych chi'n talu arno.

Cyngor os ydych chi mewn dyled

Os oes gyda chi ddyled treth y Cyngor a bod gyda chi gynllun ad-dalu ar waith gyda ni eisoes, ond eich bod chi'n ei chael hi'n anodd gwneud eich taliadau, dylech chi ein ffonio ni i drafod eich cynllun. 

Ffoniwch ni ar 01443 425002 a bydd modd i ni drin a thrafod ail-negodi'r cynllun fel ei fod yn gweithio i'r ddwy ochr.

Yn sgil y cynllun seibiant dyledion mae modd i chi gael rhagor o amser i reoli eich dyled. O gael y cynllun ar waith:

  • fydd dim modd i sefydliadau adennill arian gennych chi
  • bydd y llog ar eich dyled yn cael ei rewi
  • bydd unrhyw ffioedd pellach yn cael eu stopio
  • bydd yr uchod ar waith am 60 diwrnod

Gwybodaeth ynghylch gwneud cais am seibiant dyledion

Cyngor annibynnol

I gael cyngor rhad ac am ddim cysylltwch â:

  • StepChange.org i gael cyngor rhad ac am ddim ynghylch dyledion
  • CyngorArBopeth.org ar gyfer cyngor ynghylch arian, dyled a budd-daliadau
  • Entitledto.co.uk i gael cyfrifiannell budd-daliadau at ddibenion canfod yr hyn mae gyda chi hawl iddo
  • Turn2us.org.uk i gael cyngor ymarferol os ydych chi'n ei chael hi'n anodd yn ariannol

Cysylltwch â ni

Ffoniwch ni: 01443 425002