Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin TCC (CCTV)

Beth yw TCC?

Mae Teledu Cylch Cyfyng (TCC) yn system sy'n gweithredu ar sail dolen gaeedig.  Yn wahanol i deledu darlledu, mae delweddau TCC ar gael i'r rhai sydd wedi'u cysylltu'n uniongyrchol yn unig.  Canolfan rheoli TCC RhCT yw'r ystafell fonitro ganolog ar gyfer y gwasanaeth hwn.  Mae'r cysylltiadau rhwng y system recordio camera a'r ystafell fonitro yn gysylltiadau diogel sy'n bodloni gofynion Comisiynwyr Camerâu Gwyliadwriaeth. 

Pa mor hir mae'r recordiau'n cael eu cadw?

Mae recordiadau digidol yn cael eu cadw ar y system am gyfnod o 31 diwrnod hyd nes bydd cais ffurfiol. Mae corff sy'n gofyn am ryddhau lluniau am resymau tystiolaethol yn gallu eu cadw mor hir ag y bo angen

Pwy sy'n gweld y delweddau?

Staff sy'n cael eu cyflogi gan RCT i fonitro'r system ac mewn rhai amgylchiadau mae delweddau byw yn cael eu trosglwyddo i bencadlys yr Heddlu.

Beth yw amcanion y cynllun?

  • helpu i leihau ofn trosedd
  • helpu atal troseddau
  • helpu i ganfod trosedd a darparu deunydd tystiolaethol ar gyfer achosion llys
  • cynorthwyo i reoli'r Canol Trefi yn Rhondda Cynon Taf yn gyffredinol o dan system tcc canol y dref
  • gwella diogelwch cymunedol, cynorthwyo i ddatblygu lles economaidd yr ardal ac annog mwy o ddefnydd o ganol trefi, mannau siopa ac ati.
  • cynorthwyo'r Awdurdod Lleol yn ei swyddogaethau gorfodi a rheoleiddio o fewn yr ardaloedd a gwmpesir
  • cynorthwyo i gefnogi achosion sifil a fydd yn helpu i ganfod troseddau
  • cynorthwyo i hyfforddi gweithredwr TCC, yr Heddlu ac eraill sy'n ymwneud â defnyddio'r system TCC

Mae'r cynllun yn eithrio'n benodol:

  • Recordio sain mewn man cyhoeddus
  • Defnyddio delweddau at ddibenion adloniant neu ddefnydd masnachol.