Yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth (Mehefin 2013), mae'r wybodaeth ganlynol ar gael.
- Mae'r system teledu cylch cyfyng (‘CCTV’) yn cael ei gweithredu yn unol ag Amcanion y Cynllun a chanllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a Swyddfa'r Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth. Mae modd gweld y mesurau rheoli deddfwriaethol perthnasol yn Neddf Diogelu Data 1998, Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000, Deddf Diwydiant Diogelwch Preifat 2001, a Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.
- Mae'r system Man Agored Cyhoeddus yn cael ei hystyried yn gymesur ac yn angenrheidiol ar gyfer lleoliadau'r camerâu. Mae maint y system yn cael ei adolygu'n flynyddol i sicrhau cydymffurfiaeth ag amcanion y cynllun a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, gan gynnwys asesu'r angen parhaus.
- Dydy'r system ddim yn defnyddio recordiadau sain, camerâu manylder uwch, meddalwedd adnabod wynebau na meddalwedd adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig.
- Mae'r system, a gweithdrefnau gweithredu'r system, wedi eu hachredu i'r Arolygiaeth Diogelwch Cenedlaethol (‘NSI’).
- Does neb heblaw contractwyr arbenigol, uwch reolwyr a gweithredwyr wedi eu trwyddedu gan Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (‘SIA’) yn cael mynd i mewn i'r Ystafell Reoli. Mae croeso i grwpiau cyfundrefnol, sydd â diddordeb mewn materion troseddu ac anhrefn, drefnu ymweliad.
- Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithredu fel rheolydd data y system. Mae pob cais am ddelweddau, ac eithrio ceisiadau o dan adran 29, yn cael ei awdurdodi gan Reolwr y Cynllun yn unol â mesurau rheoli manwl.
Mae arwyddion clir ar gyfer pob camera yn dangos bod delweddau'n cael eu recordio am resymau atal troseddu a diogelwch cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth gan reolwr y system, ffoniwch 01443 490111.
I gyflwyno cwyn am y system teledu cylch cyfyng mewn Man Agored Cyhoeddus, cysylltwch â rheolwr y system.
Mae ein Polisi Teledu Cylch Cyfyng ar gael ar-lein