Skip to main content

Latest Staff Update 07/05/2020

Y penwythnos yma, mae'r Prif Weinidog am nodi cynllun y Llywodraeth i ddechrau llacio'r cyfyngiadau a gafodd eu cyflwyno tua saith wythnos yn ôl. Beth bynnag fydd y newidadau y bydd y Prif Weinidog yn eu cyflwyno, mae modd i ni sicrhau y bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'n bywydau am gyfnod arall, nes bod modd dod o hyd i frechlyn neu drin y feirws.

A ninnau'n Uwch Garfan Rheoli, rydyn ni'n ystyried yr opsiynau i ddechrau ailagor gwasanaethau a swyddfeydd yn raddol dros yr wythnosau nesaf, a hynny ar ôl i'r Prif Weinidog nodi cynllun y Llywodraeth.

Er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ac amddiffyn bywydau, yr hyn yr hoffen ni ei wneud yw annog yr aelodau o staff mae modd iddyn nhw weithio gartref i barhau i wneud hynny. Gallai gweithio gartref olygu un diwrnod yr wythnos neu'n amrywio at 5 diwrnod yr wythnos, gan ddibynnu ar eich swydd. Rydyn ni hefyd yn cydnabod ei bod hi'n bosibl y bydd angen darparu desgiau a chadeiriau addas (cadeiriau plygu o bosibl) a thechnoleg gyfarfod newydd megis Teams a Zoom i alluogi staff i ymgysylltu â'u carfanau a phobl mewn sefydliadau eraill.

Er mwyn helpu'r Uwch Garfan Rheoli i gynllunio ar gyfer ailagor gwasanaethau a swyddfeydd yn raddol, bydden ni'n ddiolchgar iawn pe bai modd i chi gwblhau'r arolwg dienw wedi'i atodi. Byddwch yn onest a mynegi'ch barn ar weithio gartref. Bydd yr wybodaeth yma yn hanfodol i'r Cyngor lunio cynllun digonol ar sut y mae’n dechrau ailagor gwasanaethau yn raddol a sicrhau bod staff yn cael cefnogaeth i gadw'n ddiogel a chyflawni eu swyddi.

Arolwg Staff ar Weithio Gartref (bydd yr arolwg yn cau am 5pm ddydd Gwener 22 Mai)

Wrth i wythnos arall ddod i ben, hoffwn i ddiolch i chi am eich cyfraniad parhaus at ymateb Rhondda Cynon Taf i Covid-19. Cadwch yn ddiogel, arhoswch gartref os nad ydych chi'n gweithio a mwynhewch y penwythnos.

Cofion,

Chris

Prif Weithredwr