Skip to main content

Canolfan Rheoli Argyfyngau'r Cyngor

Mae Canolfan Rheoli Argyfyngau'r Cyngor yn gyfleuster arbennig sy'n cael ei ddefnyddio i reoli digwyddiadau mawr ar lefel Strategol (Aur). Mae'r ganolfan yn lle diogel lle mae modd i uwch swyddogion sydd â chyfrifoldebau dros wneud penderfyniadau arwain ymateb y Cyngor, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd, a gweithio gydag asiantaethau partner.

Mae'r ganolfan mewn lleoliad sy’n wahanol i leoliad y digwyddiad. Mae hyn yn golygu bod modd i Reolwyr Strategol ganolbwyntio ar wneud penderfyniadau pwysig, gan barhau i fod mewn cysylltiad â staff i dderbyn y newyddion diweddaraf.

Diben y Ganolfan Rheoli Argyfyngau

Mae'r ganolfan yn cael ei defnyddio ar gyfer y canlynol:

  • Darparu lle canolog, gwydn fel bod modd rheoli digwyddiadau mawr
  • Sicrhau bod uwch swyddogion yn cael gwybodaeth glir a chyfredol
  • Cadw mewn cysylltiad â charfanau gweithredol, asiantaethau partner a rhanddeiliaid allanol
  • Cefnogi gwaith amlasiantaeth yn ystod digwyddiadau mawr
  • Helpu arweinwyr i wneud penderfyniadau mewn amgylchedd tawel sy’n llawn cyfarpar

Mae'r ganolfan yn cael ei sefydlu er mwyn parhau i weithredu mewn sefyllfaoedd heriol megis toriadau pŵer, tywydd garw, neu fethiant seilwaith.

Technoleg a Chyfathrebu

Mae gan y ganolfan nifer o systemau sy'n sicrhau bod modd i staff wybod y newyddion diweddaraf am y digwyddiad:

  • Llinellau ffôn uniongyrchol i gysylltu â Depos Dinas ac Abercynon
  • Mynediad at deledu cylch cyfyng, gan gynnwys camerâu ffrydio byw
  • Delweddau telemetreg a chwlferi i fonitro seilwaith allweddol mewn amser real
  • Cynadleddau fideo a ffôn fel bod modd i bartneriaid ac uwch swyddogion ymuno o bell
  • Sgrîn fawr sy'n gallu dangos y canlynol:
    • Recordiadau teledu cylch cyfyng
    • Data telemetreg
    • Galwadau cynhadledd
    • Sgriniau cyfrifiadur
    • Teledu byw (Freeview)
Camera-monitor
Data-screen
RCT-board-ward
three-screens