Skip to main content

Gwybodaeth a Chymorth

  • Щоб переглянути ці сторінки українською мовою, клацніть на людину в помаранчевому колі, а потім на A у полі та виберіть мову. 
  • I weld y tudalennau hyn yn Wcreineg cliciwch ar y person yn y cylch oren ac yna yr A yn y blwch a dewiswch yr iaith. Gwyliwch y fideo am ragor o wybodaeth.
  • Ewch yn syth i'r adran gwybodaeth, llinellau cymorth a chefnogaeth

Gwybodaeth, Llinellau Cymorth a Chefnogaeth

Cynlluniau Ailsefydlu a Fisas:

Mynnwch olwg ar y canllawiau o ran y cymorth sydd ar gael i wladolion Wcráin ac aelodau o'u teulu gan Lywodraeth San Steffan.

Mae modd cael rhagor o gyngor gan ymgynghorydd cyfreithiol gwirfoddol drwy e-bostio ukraine@freemovement.org.uk.

Mae rhagor o gyngor ac arweiniad am system fewnfudo a lloches y DU ar gael ar wefan Right to Remain neu drwy wasanaeth Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf.

Cyrraedd Cymru:

Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth i bobl o Wcráin sy’n cyrraedd Cymru am fywyd yng Nghymru, gan gynnwys sut i roi gwybod am unrhyw bryderon am ddiogelu: Noddfa | Wcráin (llyw.cymru)

Mae llinell gymorth Llywodraeth Cymru wedi’i sefydlu i gynnig cyngor i bobl sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin:
Ffon:  0808 175 1508 (yn y DU) a 0204 5425671 (y tu allan i’r DU)

Mae Cymdeithas Pobl Wcráin ym Mhrydain Fawr hefyd yn cynnig cymorth i berthnasau gwladolion Prydeinig yn Wcráin, a hefyd gwladolion Wcráin sy'n byw yn y DU.

Cyngor Teithio o ran Wcráin

Mae gwybodaeth a chyngor swyddogol o ran teithio i Wcráin ac yn ôl i'r DU, ewch i GOV.UK.

Cymorth Iechyd Meddwl

Mae modd i'r sefyllfa yn Wcráin beri gofid i berthnasoedd a ffrindiau pobl o Wcráin, a'r rhai sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae llinell gymorth iechyd meddwl CALL ar gael 24 awr y dydd i wrando a rhoi cymorth.
Ffoniwch 0800 132737 neu anfon neges destun gyda'r gair 'Help' i 81066.