Skip to main content

Mae cymorth Llywodraeth Cymru i ddioddefwyr llifogydd yn parhau yn ystod argyfwng y Coronafeirws

Yn ystod yr argyfwng cenedlaethol presennol, y Coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i aelwydydd a gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn gynharach eleni.

Achosodd Storm Dennis lifogydd difrifol mewn sawl cymuned yn Rhondda Cynon Taf ym mis Chwefror 2020 - a daeth argyfwng cenedlaethol y Coronafeirws yn fuan wedi hynny.

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James AC, wedi ailddatgan cymorth parhaus Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ac wedi tynnu sylw at y cymorth ariannol ac ymarferol sydd ar gael ac sy'n parhau i fod ar gael.

Tai / Perygl o fod yn ddigartref

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid o £10m ar gael ledled Cymru ar gyfer pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref - gan gynnwys y rhai y mae llifogydd wedi effeithio arnyn nhw. Bydd hyn yn helpu Awdurdodau Lleol i sicrhau bod pobl mewn llety lle bydd modd iddyn nhw ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus ynghylch ymbellhau cymdeithasol, a manteisio ar y cymorth cywir.

  • Os ydych chi'n poeni am eich trefniadau tai, ewch i 

Cymorth ariannol i ddioddefwyr llifogydd

Mae modd gwneud cais o hyd am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys hawl i £500 i aelwydydd y mae llifogydd wedi effeithio tu mewn i'w tai, gyda £500 ychwanegol i'r rheini heb yswiriant neu os nad oedd eu hyswiriant yn cynnwys difrod llifogydd.

Mae hyn yn ychwanegol at grant Adfer Llifogydd y Cyngor ei hun, sef £500 i breswylwyr a £1,000 i fusnesau.

  • Os nad oeddech chi wedi cadarnhau a oedd gennych chi hawl i gymorth Llywodraeth Cymru, cysylltwch â'r Cyngor a fydd yn gwneud cais ar eich rhan. Ffoniwch 01443 425001.

I gael manylion am Gronfa Lleddfu Effaith Llifogydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â'i Chronfa Cymorth Dewisol, ewch i https://llyw.cymru