Rydyn ni'n gwacáu biniau baw cŵn yn gyson ac rydyn ni'n gosod biniau newydd yn lle'r rhai sydd wedi cael eu difrodi.
Os ydych chi'n dod o hyd i fin sydd angen cael ei wacáu neu sydd wedi cael ei ddifrodi, mae modd i chi dynnu'n sylw at hyn.
Mae modd i chi wneud cais am wacáu bin neu fin newydd ar-lein.
Byddwn ni'n gwacáu bin neu osod bin newydd yn ei le o fewn 5 diwrnod gwaith.