Astudiaeth Achos: Lifft risiau fewnol ac allanol, ac ystafell wlyb
Pan benderfynwyd y byddai menyw oedrannus (Mam) yn symud i gartref ei merch, oherwydd anghenion gofal (Mam), cynhaliwyd asesiad o'r cartref gan Therapydd Galwedigaethol i sicrhau bod y cartref yn addas ar gyfer anghenion Mam. Er mwyn gallu darparu gofal digonol i Mam, canfuwyd bod angen lifft risiau fewnol ac allanol, adnewyddu'r ystafell ymolchi bresennol yn ystafell wlyb a gosod toiled i lawr y grisiau. Roedd yr addasiadau hyn yn hanfodol ar gyfer annibyniaeth, preifatrwydd a chyfforddusrwydd Mam. Byddai'r addasiadau'n cefnogi'r ferch i ddiwallu anghenion gofal Mam yn y ffordd orau.
Gwnaed y gwaith Grant Cyfleusterau i'r Anabl hyn ar y cyd â'r Grant Tai Gwag a ddyfarnwyd i'r ferch ar gyfer y tŷ. Roedd y Grant Cartrefi Gwag yn caniatáu i'r tŷ gael ei ailweirio, gosod estyll a nenfydau newydd, gosod cwrs atal lleithder ac ailstrwythuro'r gosodiad i fyny'r grisiau.
Roedd y gwaith a gyflawnwyd drwy gyfuniad o’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r Grant Cartrefi Gwag yn ei wneud yn gartref diogel, cyfforddus a chefnogol i Mam a Merch fyw ynddo.