Skip to main content

Grant Cyfleusterau i'r Anabl

Mae'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl ar gael ar gyfer amryw o waith a fydd yn helpu person anabl i gynnal ei annibyniaeth yn y cartref.

Gwaith Cymwys

Bydd rhad i'r unigolyn anabl gael ei asesu gan therapydd galwedigaethol er mwyn dod i gasgliad pa addasiadau sydd eu hangen yn y cartref. Mae modd i hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gosod lifft risiau ar gyfer mynediad haws i ystafelloedd ymolchi, ceginau ac ystafelloedd gwely
  • Gosod cawod mynediad gwastad neu fath/toiled arbenigol
  • Gwella neu osod system wresogi addas
  • Gwneud drysau'n fwy llydan neu osod rampiau
  • Addasu rheolaetau gwresogi a goleuo ar gyfer defnydd haws
  • Estyniad ar gyfer cyfleusterau gofal ychwanegol 
  • Addasiadau allanol ar yfer mynediad haws i'r cartref

Y grant mwyaf ydy £36,000 gan gynnwys holl ffioedd a chostau cynorthwyol. 

Meini Prawf

Rhaid eich bod chi'n: 

  • tenant neu'n berchen eiddo 
  • landlord ar ran tenant sy'n anabl 

Bydd rhaid i bwy bynnag sy'n ymeisio am y grant ddangos tystysgrif perchnogaeth neu denantiaeth. 

Fydd rhaid i mi dal cyfraniad?

Efalai bydd gofyn i chi gyfrannu at y grant os ydych chi angen addasiadau mawr megis estyniad, lifft trwy loriau neu addasiadau strwythurol sylweddol. Yn yr achos yma, bydd yn dibynnu ar brawf modd. Bydd hyn yn cael ei bennu drwy incwm a chyfalaf:

  • y person anabl 
  • gŵr/ gwraig/ partner y person anabl 

Bydd yn ystyried:

  • cyfartaledd incwm wythnosol 
  • unrhyw arbedion dros swm penodol

Dyw rhai budd-daliadau, yn enwedig y rheiny sy'n cydnabod anabledd y person, ddim wedi'u cynnwys. 

Gallwch chi ymgeisio am grant os ydych chi:

  • yn denant neu'n berchen ar eiddo
  • yn landlord (ar ran tenant sy'n anabl)

Does dim rhaid i'r person sy'n ymgeisio am y grant fod y person anabl sydd angen yr addasiadau.

Amodau Grant 

Os bydd swm y grant yn fwy na £5000, bydd gofyn i chi lofnodi cytundeb y byddwch chi'n ad-dalu'r grant os byddwch chi'n gwerthu'r eiddo o fewn 5 mlynedd o gwblhau'r addasiadau.

Fodd bynnag, os bydd yr eiddo wedi'i addasu'n cael ei werthu i landlord cymdeithasol cofrestredig, fydd y cymhorthdal ddim yn cael ei hawlio'n ôl. 

Cyflwyno Cais

Cysylltwch â'r gwasanaethau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r wybodaeth isod er mwyn gofyn i therapydd galwedigaethol ymweld â chi. 

Bydd aelod o'r garfan tai yna'n cysylltu â chi i gwblhdau ffurflen gais. Unwaith mae'r cais wedi cael ei gyflwyno, byddwch chi'n cael gwybod o fewn 6 mis a ydy'ch cais wedi cael ei dderbyn.

Manylion Cyswllt

Carfan Ymateb ar Unwaith

 

Ffôn: 01443 425003