Skip to main content

Astudiaeth Achos: Plentyn Ifanc

Astudiaeth Achos: Cyfleusterau ymolchi arbenigol, ailstrwythuro'r tu mewn a gwelliannau i fynediad allanol

Yn ddiweddar, darganfyddodd teulu lleol gyda phlentyn ifanc anabl, fod yr addasiadau blaenorol yn eu cartref teuluol ddim yn addas dim mwy ar gyfer eu plentyn oedd wedi tyfu.  Roedd hyn yn gwneud bywyd dyddiol a gofalu am y plentyn yn anodd i'r teulu.

Yn dilyn ymweliad gan y Therapydd Galwedigaethol, fe'u haseswyd ar gyfer ardal gawod fwy â gwely gawod arbenigol fyddai'n gwneud ymolchi'r plentyn yn haws. Cafodd ei awgrymu hefyd dylai gosodiad mewnol yr eiddo gael ei ailstrwythuro er mwyn gwneud lle i wely arbenigol ac er mwyn ychwanegu llawr gwrth-lithr â phlwg trydanol ychwanegol. Er mwyn ei gwneud yn haws mynd i mewn i'r tŷ, penderfynwyd byddai'r ardd flaen yn cael ei phalmantu ac ardal barcio newydd yn cael ei chreu.

Mae'r Garfan Grantiau Tai wedi cefnogi'r teulu drwy gydol y broses, gan gynnwys yn ystod y broses gwneud cais. Cafodd contractiwr profiadol ei benodi er mwyn cwblhau'r gwaith iddyn nhw, gan aflonyddu cyn lleied â phosibl ar y teulu a'u hanghenion gofal dyddiol. Cafodd yr holl waith ei gwblhau o fewn pythefnos, er mwyn sicrhau bod y teulu'n gallu gofalu am eu plentyn yn ddigonol.