O ganlyniad i benderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 23 Medi 2024, mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad 6 wythnos ar ei Strategaeth dai leol newydd; 'Bywydau Llewyrchus 2024–2030'. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 7 Hydref 2024 a bydd yn dod i ben ar 18 Tachwedd 2024.
Mae'r Strategaeth ddrafft yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithio gyda rhanddeiliaid i lunio a darparu tai a gwasanaethau tai sy'n ddiogel, yn fforddiadwy ac o safon dda dros y 6 mlynedd nesaf. Gyda gostyngiad yn yr adnoddau sydd ar gael yn y sector cyhoeddus, mae’r Strategaeth yn dibynnu ar ddawn greadigol, arloesedd a gwaith mewn partneriaeth, gan ganolbwyntio ar fewnfuddsoddi gyda chyfeiriad strategol cadarn.
Gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y strategaeth yw ei bod hi'n sicrhau 'bod y farchnad dai yn Rhondda Cynon Taf yn cynnig mynediad i'n trigolion i gartrefi fforddiadwy o ansawdd da, yn y lle cywir ar yr amser cywir'.
Caiff y Strategaeth ei chefnogi gan y pedwar amcan a ganlyn a fydd yn llywio ei chyflawniad:
- Galluogi marchnad dai weithredol sy'n diwallu anghenion ein cymunedau
- Hyrwyddo cymunedau cynaliadwy a chreu cartrefi sy'n ddiogel, yn gynnes ac yn iach drwy wella cyflwr tai a buddsoddi mewn adfywio cymunedol
- Galluogi mynediad i bob math o dai addas a fforddiadwy sy'n diwallu anghenion trigolion
- Creu cymunedau llewyrchus drwy sicrhau bod modd i drigolion gael gafael ar gyngor a chymorth yn ymwneud â materion tai sy'n diwallu eu hanghenion
Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion wneud sylwadau a chyfrannu at ddrafft terfynol y Strategaeth.
Mae’r ddogfen ymgynghori i’w gweld ar y dudalen yma.
Cymryd rhan yn yr Ymgynghoriad Strategaeth Tai Lleol
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae modd gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
Ar-lein
Llenwi'r holiadur ar-lein
E-bost
Anfon e-bost aton ni – ymgynghori@rctcbc.gov.uk
Rhif ffôn
Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun, neu os oes angen copïau papur o'r wybodaeth arnoch chi,
Ffoniwch 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener
Ysgrifennwch aton ni:
Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Swyddfa Llawr 4
2 Llys Cadwyn
Pontypridd
CF37 4TH