Skip to main content

Strategaeth Dai Lleol RhCT – Gwybodaeth Gyffredinol

Strategaeth Dai Lleol RhCT – Gwybodaeth Gyffredinol

O ganlyniad i benderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 23 Medi 2024, mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad 6 wythnos ar ei Strategaeth dai leol newydd; 'Bywydau Llewyrchus 2024–2030'. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 7 Hydref 2024 a bydd yn dod i ben ar 18 Tachwedd 2024.

Mae'r Strategaeth ddrafft yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithio gyda rhanddeiliaid i lunio a darparu tai a gwasanaethau tai sy'n ddiogel, yn fforddiadwy ac o safon dda dros y 6 mlynedd nesaf. Gyda gostyngiad yn yr adnoddau sydd ar gael yn y sector cyhoeddus, mae’r Strategaeth yn dibynnu ar ddawn greadigol, arloesedd a gwaith mewn partneriaeth, gan ganolbwyntio ar fewnfuddsoddi gyda chyfeiriad strategol cadarn.

Gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y strategaeth yw ei bod hi'n sicrhau 'bod y farchnad dai yn Rhondda Cynon Taf yn cynnig mynediad i'n trigolion i gartrefi fforddiadwy o ansawdd da, yn y lle cywir ar yr amser cywir'.

Caiff y Strategaeth ei chefnogi gan y pedwar amcan a ganlyn a fydd yn llywio ei chyflawniad:

  • Galluogi marchnad dai weithredol sy'n diwallu anghenion ein cymunedau
  • Hyrwyddo cymunedau cynaliadwy a chreu cartrefi sy'n ddiogel, yn gynnes ac yn iach drwy wella cyflwr tai a buddsoddi mewn adfywio cymunedol
  • Galluogi mynediad i bob math o dai addas a fforddiadwy sy'n diwallu anghenion trigolion
  • Creu cymunedau llewyrchus drwy sicrhau bod modd i drigolion gael gafael ar gyngor a chymorth yn ymwneud â materion tai sy'n diwallu eu hanghenion 

Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion wneud sylwadau a chyfrannu at ddrafft terfynol y Strategaeth.

Mae’r ddogfen ymgynghori i’w gweld ar y dudalen yma.

Y Garfan Strategaeth Tai a Buddsoddi mewn Tai yw’r arweinydd Strategol or ran gweithredu’r Strategaeth ac mae’n gyfrifol am amrywiaeth o faterion tai, gan gynnwys:

Tai fforddiadwy

Mabwysiadodd y Cyngor ei Ddatganiad Darparu Tai Fforddiadwy ym mis Mehefin 2009. Serch hynny, mae hwn nawr wedi cael ei ddisodli gan broses y Cynllun Datblygu Lleol a dydy e ddim yn gymwys bellach. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â materion tai fforddiadwy ar gael ar y dudalen yma.

Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Mae Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol yn cael eu cynnal gan Swyddog Materion Tai Fforddiadwy y Cyngor bob 2 flynedd.  I weld yr Asesiad mwyaf diweddar, gweler y dudalen yma.

Perchen ar gartref am bris gostyngol

Mae'r Cyngor wedi gweithredu'r cynllun 2006 er mwyn helpu pobl sy'n gadarn yn ariannol ond sydd ddim yn gallu prynu cartref eu hunain heb rywfaint o gymorth. Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr yn gallu prynu cartref newydd sbon sy'n rhan o ddatblygiad preifat a derbyn gostyngiad (70-75%, fel arfer) oddi ar werth marchnad agored yr eiddo.

I weld cartrefi sydd ar gael i'w prynu trwy'r cynllun Homestep, ewch i wefan Housing Solutions.

Manylion cyswllt 

 

Ffôn: 01443 281136