Cyfleoedd ar gyfer Prentisiaethau

Mae Cynllun Prentisiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf AR AGOR

Mae modd i chi weld y rhestr gyfan o swyddi gwag, disgrifiadau swyddi unigol, ac ymgeisio am swyddi ar ein gwefan:  Swyddi gwagf. 

Prentisiaeth

Prentis - Peirianneg Sifil (x2)

Prentis - Goleuadau Stryd

Prentis - Syrfëwr Adeiladu

Prentis - Cyfrifeg

Prentis - Gwasanaethau Technegol Cerbydau

Prentis - Refeniw a Budd-daliadau (x2)

Prentis - Pensiynau

Prentis - Cymorth Busnes Grantiau Tai

Prentis - Carfan Plant Anabl

Prentis - Gweithiwr Ymyrraeth Meisgyn

Prentis - Maethu Cymru RhCT

Prentis - Cymorth Ymyrraeth Ddwys

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gennych gymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 3, fyddech chi ddim yn gymwys i wneud cais am rôl Gweinyddu dan Brentisiaeth. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

Amserlen Ymgeisio

Ebrill 2024 - Cyfnod cyflwyno cais yn dechrau

Mai 2024 - Cyfnod cyflwyno cais yn dod i ben

Mehefin 2024 - Cyfnod profi dawn ar-lein (os yw'n berthnasol i'r swydd)

Canol mis Mehefin tan Gorffennaf 2024 - Trefniadau cyfweld i'w gwneud:

2 Medi 2024 - Dechrau gweithio gyda RhCT