Mae ein Cynllun Prentisiaethau wedi bod yn cael ei gynnal ers mis Medi 2012. Yn ystod y cyfnod yma, mae'r Cyngor wedi cyflogi dros 400 o brentisiaid mewn sawl maes gwasanaeth.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael ei gydnabod ddwywaith fel Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru. Derbyniodd y wobr yn 2018 ac eto yn 2021 am gyflwyno Cynllun Prentisiaethau rhagorol.
Yn fwy diweddar, derbyniodd y Cyngor Wobr Hyfforddiant fawreddog y Dywysoges Frenhinol am yr ail dro ym mis Rhagfyr 2025, gan ddathlu ein hymrwymiad i ddatblygu staff a'r effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar y sefydliad. Fe wnaethon ni dderbyn y wobr hon gyntaf yn 2022. Rydyn ni'n hynod falch o'r cyflawniadau yma, sy'n tynnu sylw at ymroddiad ein staff a'n hymrwymiad parhaus i ragoriaeth.
Mae croeso i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn wneud cais. Does dim terfyn o ran oedran.
Yn fwy diweddar, cawsom Wobr Hyfforddiant fawreddog y Dywysoges Frenhinol i gydnabod yr ymrwymiad i hyfforddiant a’r effaith gadarnhaol y mae datblygu staff wedi’i chael ar yr awdurdod lleol.
Yn ystod y Brentisiaeth, byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae Prentisiaethau yn cynnig cymysgedd o hyfforddiant yn y gwaith a dysgu yn y dosbarth. Mae'r Prentisiaethau'n sicrhau bod gyda chi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn i chi gychwyn ar eich llwybr gyrfa dewisol a fydd hefyd yn arwain at gymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol. Yn ystod eich amser fel Prentis byddwch chi'n ennill cyflog a buddiannau eraill hefyd.
Os ydych chi'n ymuno â Chyngor RhCT, byddwn ni'n sicrhau bod gyda chi fentor personol a fydd yn eich helpu chi i ddysgu sgiliau newydd a chyflawni cymwysterau ffurfiol.
Mae Prentisiaethau Cyngor RhCT yn para am gyfnod penodol o ddwy flynedd lle byddwch chi'n derbyn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol sy'n newid yn ôl oedran. Ers mis Ebrill 2026, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw:
- 21 oed neu'n hŷn - £12.71
- 18–20 oed - £10.85
- Dan 18 oed - £8.00