Sut Mae Gwneud Cais

Mae gwneud cais am Brentisiaeth yn haws nag erioed o'r blaen. Defnyddiwch ein Peiriant Chwilio am Swyddi a byddwch chi'n gam yn nes at fod yn brentis gyda Rhondda Cynon Taf.

Cyflwyno cais am swyddi

Mae proses Dewis a Phenodi'r Cyngor yn seiliedig ar gymwyseddau sy'n golygu ei bod hi'n seiliedig ar fedrau a galluoedd sydd eu hangen i gyflawni swydd mewn modd effeithiol.

Yn y gorffennol, byddai pobl wedi nodi yn eu ffurflenni cais "Rwy'n dda yn gwneud... neu mae sgiliau cyfathrebu rhagorol gen i”. Dyw hyn ddim yn ddigon mwyach. Yn hytrach na hyn, bydd raid ichi roi enghreifftiau neu dystiolaeth o sefyllfaoedd neu dasgau rydych chi wedi'u gwneud yn ystod profiad gwaith, mewn swydd flaenorol neu'r tu allan i'r gweithle sy'n dangos bod y medrau sydd eu hangen ar gyfer y swydd gyda chi.

Ffordd effeithiol o ddangos sut rydych chi'n bodloni gofynion y cymwyseddau ar gyfer y swydd yw defnyddio'r model isod. Yma, byddwch chi'n disgrifio'r sefyllfa, y tasgau a oedd angen cael eu cwblhau, y camau gweithredu gymeroch chi a ffrwyth eich gweithredu. Er enghraifft, os ydy cwrdd â therfynau amser yn gymhwysedd allweddol i swydd, fe fyddai modd ichi ddangos hyn trwy ddefnyddio'r model, fel a ganlyn:

    

Sefyllfa - Tra bod cydweithiwr ar wyliau, roedd y swyddfa yn brysur iawn gyda llawer o bethau gwahanol a oedd angen cael eu cwblhau cyn dyddiadau penodol.

Tasg - Roedd rhaid i fi sicrhau fy mod i'n cwblhau'r tasgau yn y drefn gywir er mwyn cwblhau pob dim yn brydlon.

Gweithredu - Holais i'r rheolwr pa bethau oedd ar frys. Defnyddiais i fy nyddiadur fel roeddwn i'n gwybod yr hyn roedd angen i fi ei wneud ar bob diwrnod ynghyd â pharatoi rhestr wirio ar gyfer pob diwrnod, a rhoi tic wrth i fi gwblhau pob tasg.

Canlyniad - Roedd hi'n brysur iawn tra roedd fy nghydweithiwr ar wyliau, ond llwyddais i gwblhau pob tasg yn brydlon gan i mi drefnu f'amser yn dda. Roedd hi'n dalcen caled i raddau i gwblhau pob dim mewn gwirionedd, felly efallai y bydda i, y tro nesaf, yn gofyn i rywun arall sydd ar gael am roi cymorth i fi pan fyddai angen cwblhau llawer o dasgau erbyn yr un pryd.

Er mwyn i ni dynnu rhestr fer ar gyfer cyfweliad, mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn nodi enghreifftiau sy'n dangos bod y medrau gofynnol gyda nhw ar gyfer y swydd. Os na fyddwch chi'n nodi rhywbeth, fyddwn ni ddim yn gwybod a byddwn ni'n meddwl nad yw'r medrau gofynnol hynny gyda chi.

Byddwn ni'n gofyn 1 cwestiwn cyffredinol i chi yn ogystal â chwestiynau sy'n seiliedig ar gymhwysedd. Dyma’h cyfle chi i ddangos pam mai chi yw’r person gorau ar gyfer y rôl? Beth sy'n unigryw amdanoch chi?

Defnyddiwch y cwestiwn yma i ddangos eich brwdfrydedd am y math o swydd rydych chi'n ymgeisio amdani, unrhyw brofiadau / cymwysterau perthnasol rydych chi'n meddu arnyn nhw a’chawydd i ddysgu a chyfrannu at wella darpariaeth gwasanaeth yn Rhondda Cynon Taf.