Chelsea Jones, Swyddog Graddedig - Trawsnewid Anableddau Dysgu

Enw: Chelsea Jones

Blwyddyn Dechrau'r Rhaglen i Raddedigion: 2021

Swydd Raddedig: Swyddog Graddedig - Trawsnewid Anableddau Dysgu

Swydd bresennol: Swyddog Cydgynhyrchu

Maes Astudio: Systemau Gwybodaeth Busnes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Beth oedd uchafbwynt dy gyfnod yn Swyddog Graddedig?

A bod yn onest, fe alla i ddweud bod sawl uchafbwynt wedi bod yn ystod fy nghyfnod yn Swyddog Graddedig. Mae cael y fraint o allu gweithio gydag unigolion sydd â phrofiad byw drwy gydgynhyrchu i drawsnewid dyfodol Gwasanaethau Anabledd Dysgu'r Cyngor, wedi bod yn brofiad hynod o werthfawr. Ond y profiad sy'n dod i feddwl yw pan ges i gyfle i arwain fy mhrosiect cyntaf, a hynny'n gynnar yn fy nghyfnod ar leoliad. Roedd hwn yn gyfle i feithrin sgiliau hwyluso gwerthfawr, megis datrys problemau a rheoli amser. Magais hyder wrth i fy ngharfan ymddirired ynof i i hwyluso'r prosiect ac roedd gwybod bod fy ngwaith yn llywio rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu yn deimlad gwych. Mae cael ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad byw wedi bod yn fuddiol iawn i safon fy ngwaith.

Beth oedd yr her fwyaf i ti ei hwynebu, a sut wnest ti ei goresgyn?

Yr her fwyaf wynebais yn Swyddog Graddedig oedd amau fy ngallu gan fy mod i mor newydd i'r rôl a'r sefydliad. Roeddwn i'n gweithio gyda phobl o bob cefndir, maes gwasanaeth a lefel profiad ac roedd hynny'n teimlo'n llethol ar y dechrau. Roeddwn i'n synnu ar ddyfnder eu gwybodaeth a phrofiad. Gwnes i'n siŵr fy mod i'n dysgu cymaint oddi wrthyn nhw ag oedd yn bosibl a gofynnais am gymorth pryd bynnag roedd angen. Roedd fy ngharfan yn credu ynof i ac yn fy nghefnogi bob cam o'r ffordd ac roedd hyn yn allweddol wrth oresgyn unrhyw heriau roeddwn i'n eu hwynebu.

Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i fod yn rhan o'r Rhaglen i Raddedigion?

Daliwch ati! Cyflwynais i gais i fod yn rhan o'r Rhaglen i Raddedigion dair gwaith cyn llwyddo gan fod y rhaglen yn un mor gystadleuol. Mae dod o hyd i'ch swydd neu lwybr gyrfa delfrydol wrth adael y Brifysgol yn anodd, ond mae Rhaglen i Raddedigion y Cyngor yn gam cyntaf gwych ac yn sylfaen gadarn i chi adeiladu arni. Mae cyfleoedd arbennig ar gael i ryngweithio â Swyddogion Graddedig eraill ac uwch aelodau staff o bob maes gwasanaeth. Cadwch feddwl agored wrth edrych ar y swyddi sydd ar gael - hyd yn oed os nad oes gyda chi brofiad yn y maes gwasanaeth, byddwch chi'n cael eich ystyried ar gyfer y rôl os ydych chi'n dangos eich bod chi'n meddu ar y rhinweddau sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person. 

 

Chelsea Jones, Swyddog Graddedig - Trawsnewid Anableddau DysguChelsea CYM-min