Leon Marenghi, Swyddog Graddedig - Rheoli Cyflawniad

Enw: Leon Marenghi

Blwyddyn Dechrau'r Rhaglen i Raddedigion: 2020

Swydd Raddedig: Swyddog Graddedig - Rheoli Cyflawniad

Swydd Bresennol: Swyddog Materion Cyflawni a Strategol Newid yn yr Hinsawdd

Maes Astudio: BSc mewn Rheoli Busnes

Disgrifia wythnos arferol Swyddog Graddedig?

Mae angen ystod eang o wybodaeth am bolisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol i fod yn Swyddog Graddedig – Rheoli Cyflawniad. Mae rhaid bod gyda chi'r gallu i feithrin perthynas â gwasanaethau eraill er mwyn sicrhau bod y broses o gasglu data a gwybodaeth mor gadarn a syml ag sy'n bosibl. Mae hefyd rhaid bod gyda chi'r gallu i gydbwyso llwyth gwaith wrth weithio tuag at derfynau amser, felly mae pob wythnos yn gwbl wahanol! Mae'r gwaith yn newid bob dydd ac mae rhaid i chi sicrhau eich bod chi'n effro i bopeth sy'n digwydd ar lefel leol a chenedlaethol.

Beth oedd y wers fwyaf i ti ei dysgu yn rhan o'r Rhaglen i Raddedigion?

I fod yn drefnus a pheidio ag aros yn rhy hir cyn gorffen darn o waith. Mae gwybodaeth yn newid drwy'r amser ac felly bydd eich llwyth gwaith yn mynd yn fwy os ydych chi'n aros yn rhy hir.

Sut wnaeth y Rhaglen i Raddedigion dy helpu di i gyrraedd lle rwyt ti heddiw?

Mae'r rhaglen, yn enwedig yr hyfforddiant Rheoli Prosiectau, wedi fy nysgu i i gyflawni prosiectau'n effeithlon ac yn amserol. Mae'r swydd Rheoli Cyflawniad wedi fy nysgu i i fod yn fwy trefnus a blaengar wrth gwblhau gwaith a chynllunio gwaith y dyfodol. Rydw i nawr yn meddwl yn fwy strategol ac yn bwrw ati i greu, datblygu a chwblhau gwaith heb fod rhaid i rywun ofyn i fi.

 

Leon Marenghi, Swyddog Graddedig - Rheoli Cyflawniad

Leon CYM-min