Cyfleoedd i Raddedigion

Mae Rhaglen i Raddedigion Cyngor Rhondda Cynon Taf ar agor NAWR!

Ewch i'n gwefan i fwrw golwg ar bob swydd wag, gweld disgrifiadau swyddi unigol a gwneud cais: Swyddi Gwag

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig amrywiaeth o swyddi Swyddogion i Raddedigion yn 2025. P'un a ydych chi ym mlwyddyn olaf eich gradd, neu'n meddu ar radd yn barod, mae'r cyfleoedd isod ar gael i chi!

Mae'r swyddi Swyddogion i Raddedigion yma ar gael:

  • Swyddog Graddedig – Cyfrifeg 
  • Swyddog Graddedig – Syrfëwr Adeiladu
  • Swyddog Graddedig – Peirianneg Sifil
  • Swyddog Graddedig – Rheoli Prosiectau ac Adeiladu
  • Swyddog Graddedig – Peiriannydd Trydanol
  • Swyddog Graddedig – Iechyd a Diogelwch
  • Swyddog Graddedig – Peiriannydd Mecanyddol
  • Swyddog Graddedig – Gwybodaeth am Eiddo a Chydymffurfiaeth

Amserlen Gwneud Cais

13 Chwefror 2025 – Ceisiadau'n agor

10 Ebrill 2025 – Ceisiadau'n cau
Mai / Mehefin 2025 – Canolfan asesiadau ar-lein yn cael ei chynnal (os oes angen ar gyfer y swydd). Bydd cyfweliadau unigol yn cael eu cynnal.
1 Medi 2025 – Dechrau gweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf