Dyma gyfnod cyffrous a llawn her ym myd awdurdodau lleol wrth i ni barhau i sicrhau gwasanaethau gwell ochr yn ochr â gwerth am arian. Mae gweithio ym myd llywodraeth leol yn un o'r heriau mwyaf ysgogol i'r ymennydd wrth inni gynnal gwasanaethau sy'n effeithio ar filoedd o fywydau mewn amryw ffyrdd. Mae Rhondda Cynon Taf am recriwtio Swyddogion Graddedig talentog a blaengar i'w Rhaglenni i Raddedigion. Mae pob un o'r swyddi Graddedig yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu medrau newydd, datblygu'n broffesiynol a chamu i fyd gwaith y sector cyhoeddus.
Bydd Swyddogion Graddedig yn:
- Ennill £31,364 y flwyddyn ac yn gweithio 37 awr yr wythnos
- Cwblhau ystod eang o gymwysterau sydd wedi'u hariannu'n llawn, gan gynnwys cymhwyster Lefel 4 Rheoli Prosiectau
- Gweithio drwy ddull hybrid
- Cael 26 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau'r banc
- Cael eu mentora gan aelodau uwch o staff
- Cael y cyfle i fanteisio ar ystod eang o gynlluniau buddion staff gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, cynllun Cycle2Work a chynllun talebau gofal plant
- Manteisio ar Aelodaeth Gorfforaethol Hamdden am Oes
- Derbyn cerdyn buddion staff 'Vectis'
Mae llawer o Swyddogion Graddedig o flynyddoedd blaenorol wedi llwyddo i gael swyddi rheoli ar ôl cwblhau'r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys dau o raddedigion sydd, ar hyn o bryd, yn Benaethiaid Gwasanaethau yn yr awdurdod.
Os ydych chi'n weithgar ac yn angerddol dros ein helpu ni i gyflawni ystod eang o gyfrifoldebau, yna gallai swydd raddedig gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf fod yn berffaith i chi!
Un gair/ymadrodd i ddisgrifio'ch profiad ar Raglen i Raddedigion Cyngor Rhondda Cynon Taf