Pa fath o gymwysterau bydda i'n eu cwblhau ar y cynllun?
Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cofrestru ar gymhwyster Lefel 4 Rheoli Prosiectau, a fydd yn cynnwys mynychu gweithdai yn ystod yr wythnos. Mae Lefel 4 yn gyfwerth â Gradd Sylfaen. Mae rheoli prosiectau yn sgil trosglwyddadwy a hynod o werthfawr y byddwch chi'n ei ddefnyddio drwy gydol eich gyrfa yn y dyfodol. Bydd disgwyl i chi hefyd gwblhau'r holl hyfforddiant angenrheidiol sy'n ofynnol gan Gyngor RhCT, ac unrhyw ddatblygiad ychwanegol sy'n benodol i'r swydd, yn ôl yr angen.
Fe wnes i raddio flynyddoedd yn ôl – ga i gyflwyno cais?
Cewch, rydyn ni'n falch o dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sy wedi bod yn y byd gwaith ers graddio.
Fyddwch chi'n cynnig swydd i mi ar ôl i mi gwblhau'r Rhaglen i Raddedigion?
Does dim modd inni addo y byddwn ni'n cynnig swydd i chi ar ôl i chi gwblhau'r rhaglen, ond mae'r rhan fwyaf o'r swyddogion graddedig (70% hyd yma) sydd wedi gwneud hynny wedi cael swydd gyda Chyngor RhCT ar y diwedd.